Llongyfarchion, ond ai cyfrinach yw hi ?

Fel un sydd wedi bod yn feirniadol i ryw raddau o ddiffyg cynnyrch S4C ar-lein, yr wyf yn hynod o falch i gyhoeddi fy mod i’n cael gweld hynt a helynt yr Eisteddfod Genedlaethol ar fy nghyfrifiadur bach yma ym Melbourne.

Gwyn (gwyrdd a glas) fy myd wrth i mi wylio’r Coroni ar fore Marth heulog.

Rhaid dweud fy mod i’n meddwl am y dyddiau pell yn ol pan yr oedd y Coroni a’r Cadeirio’n cael eu darlledu ar draws y Deyrnas gyfan gyda’r diweddar Alun Williams yn pontio rhwng y ddwy iaith yn feistrolgar.

Am ddwy awr y flwyddyn yr oedd y Gymraeg yn hoelio sylw’r rhwydwaith nid jyst trosglwyddyddion Crystal Palace, Sutton Coldfield a Holme Moss !

Mae pethe wedi newid yn gyfan gwbl yn y degawdau oddi ar hynny – mae’r byd i gyd yn gallu gwylio.

Ond – mae’r gair bach hwnnw’n codi pob amser – pam nad yw gwefan S4C wedi cyhoeddi’n uchel bod rhaglenni o Wrecsam ar gael ar wefan Clic ?

Dewch ‘mlaen bois bach !

Advertisements

Rhowch sylw

Filed under Uncategorized

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Newid )

Connecting to %s