Y pethe

Wrth i mi “foddi”  mewn teledu a radio o’r oes a fu’n ddiweddar yr wyf wedi sylwi ar agweddau sarhaus am Gymru a’r Gymraeg  sy’n codi eu pennau’n rhy reolaidd o lawer ar rai rhaglenni.

Er enghraifft, roedd criw ddychanol “I’m Sorry I’ll Read That Again” yn siwr o gael y gynulleidfa ddosbarth canol Llundeinig yn cwerthin trwy gyfeirio at “the news in Welsh”.

Mewn mwy nag un rhaglen o’r 60au a 70au yr wyf wedi clywed yr un “surefire joke” gan John Cleese a’r lleill.

Ac ar “The Bill”, yr anfarwol Tosh Lines yn son am leidr o dras Cymreig sy’n dringo pibellau er mwyn cael mynediad i dai a busnesau mewn rhaglen a ddarlledwyd ym 1989.  “Monkeys can’t climb up trees wearing shoes.  Our friend takes them and his socks off and then shins up there  before you can say Plaid Cymru”.

Damwain a a hap ?

Ydwyf yn ddi-hiwmor ?

Neu ydyn ni yn or-sensitif ?

Mae gan unrhyw aelod o ddiwylliant mwyafrifol y tueddiad i godi hwyl am ddiwylliannau eraill, yn enwedig y sawl sydd yn ddaearyddol agos, rhag ofn fod rhywun yn eu hystyried o’r un werth ag eu diwylliant nhw.

Joc bach fan hyn, fan draw.  Ambell i erthyfl sur yn y Telegraph neu bapurau tebyg. Pethe bach, ond pethe cyson.

A’r peth ryhfedd yw hyn. Mae’r un peth wedi digwydd ble bynnag y mae’r Ymerodraeth Prydeinig wedi teyrnasu.

Ar drothwy wythnos fawr y byd Cymraeg mae’n werth cofio pethe bychain sy’n cyfrif.

Rho sylw

Filed under Uncategorized

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Newid )

Connecting to %s