Y bos a’i benodiad “diddorol”

Un o bleserau mwyaf fy wythnos yma ar Albion Street (ie, wir) yn Brunswick West yw gwrando ar raglenni radio o Gymru.

Mae’na gwpl yr wyf yn wrandawr ffyddlon ohonynt.

“Dau o’r Bae” ac “Wythnos Gwilym Owen” ydynt.

Ond nawr mae’r cwpl yn un.

Mae Gwilym wedi rhoi’r gorau i’w raglen a thrwy wneud hynny wedi dod a gyrfa hynod dylanwadol fel darlledwr gwych  a newyddiadurwr naturiol.

Mae GO yn gofyn cwestiynau lletchwith, profoclyd ac amserol.

Boed ar “Yr Wythnos” neu “Wythnos Gwilym Owen” yr oedd yn gwneud yr hyn y dylai journo wneud – gofyn a gwrando … a gofyn.

Roedd Gwilym heyd yn fos i mi !

Cefais gynnig ganddo i gefnu ar blwyfoldeb hyfryd Sain Abertawe, lle roeddwn yn ddyn newyddion, cyflwynydd raglen chwaraeon yn y Gymraeg (“Bell ar y bel”!!) a gohebydd ar gemau Dinas Abertawe, o dan amgylchiadau diddorol.

Nid mewn cyfweliad ond trwy godi ar fy nhraed a dweud fy nweud yn ystod recordiad o’r rhaglen “Hawl i holi” pan ddaeth hi i ardal Penybont-ar-Ogwr ym 1985.

Roedd Gwilym yn cadeirio’r rhaglen y noson honno.  O fewn wythnos daeth galwad ffon gwbl annisgwyl a chynnig gwefreiddiol.

Beth wnes i i haeddu cynnig i fod yn olynydd i T. Glynne Davies fel gohebydd BBC Radio Cymru yn Abertawe a minnau’n “ddysgwr”?

Wel, wrth i eistedd yng Nghlwb Brynmenyn a gwrando ar y panel  – a does dim clem ‘da fi pwy oedd ar y panel y noson honno -rown i’n meddwl bod y pwysigion yn siarad rwtsh ynglyn a gwasanaethau newyddion yn y Gymraeg.

Cofiwch yr oedd S4C ond yn fabi pryd hynny a nid oedd Radio Cymru llawer hyn.

Roedd ‘na son byth a hefyd gan bobl ddoeth y sefydliad Cymraeg am yr angen i gael ffordd Gymreig a Chymraeg o gyfleu straeon.

Fel newyddiadurwr oedd yn codi ar fy nraed proffesiynol trwy weithio yn Saesneg a Chymraeg yr oeddwn yn gwybod bod stori yw stori ac mae’n gyfrifoldeb ar bob gohebydd i gyfleu stori mewn ffordd effeithiol.

A dyna yr hyn ddywedais i.

A diolch i Gwilym am wrando ac am roi’r cyfle i mi.

A diolch iddo am fod yn gyfrannwr go iawn i’r Gymru Gymraeg.

Rho sylw

Filed under Uncategorized

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Newid )

Connecting to %s