Y busnes Murdoch ‘ma

Newydd gwpla recordio darn sain ar gyfer Radio Cymru ar ymateb pobl Awstralia i helynt News International.

Gan mai un o’r wlad hon(a’r ddinas hon)  yw Rupert Murdoch mae’n deg nodi bod y newyddion am Newyddion wedi denu cryn sylw.

Mae hyd yn oed  papurau News (sef tua 70% o bapurau a werthir o Sydney i Adelaide, o Hobart i Darwin) wedi adrodd y hanes yn gyflawn.

Wel, ar ol “dechreuad araf”…

Mae’r Brif Weindog y Wlad, y ferch ben-goch o’r Barri AKA Julia Gillard, wedi achub y cyfle i geisio newid y sgwrs wleidyddol.

Am wythnosau mae’r sgwrs honno wedi canolbwyntio ar y dreth newydd ar carbon.

Mae papurau News wedi bod yn unfrydol eu beirnidaeth o’r dreth arfaethedig.

Gwenud eu gwaith fel y dylent medde’r newyddiadurwr, hyrwyddo safbwynt arbennig medde’r Brif Weinidog…ond cweit fel ‘na.

Mewn colofon olygyddol yr wythnos hon dywedodd y Daily Telegraph (papur dyddiol tabloid Sydney) wrth ymateb i feirnidaeth o’i straeon sy wedi ymwenud a’r dreth: “The Daily Telegraph is simply doing what it has always done, and done well — holding the government of the day to account.”

Gyda News ar ei bengliniau ym Mhrydain ac o dan y chwyddwydr yn yr Unol Daleithiau mae’r Blaid Lafur yn Awstralia  – sy’n sefyll ar 26% ar hyn o bryd – yn dechreu son am “gwestiynau” y dylid eu gofyn am y cwmni (News Limited yw e fan hyn) a’i weithgareddau yn Awstralia.

Ymateb yr wrthbleidiau ceidwadol o dan arweinyddiaeth Tony Abbott oedd i wneud beth mae Tony Abbott wedi bod yn gwneud yn hynod llwyddiannus ers misoedd – ymosod ar Gillard yn ddi-drugaredd.

Dywed TA fod sylwadau JG yn “thinly veiled attempt to intimidate the press.”

Felly mae’r argyfwng Murdochaidd wedi troi yn gem wleidyddol yn y rhan yma o’r byd

Yn y cwmni cyfryngol ei hun mae’r pennaethiaid wedi penderfynu cynnal arolwg mewnol o holl wario golygyddol News Limited.

Fe fydd dau gyn-farnwr wedi’u penodi i archwilio’r arolwg gan ein sefydliad di-dannedd sy’n delio a’r wasg – yr Australian Press Council.

Dyma yn fras yw’r sefyllfa … am yr awr neu ddwy nesaf o leiaf !!!!!

Yn y cyfamser…

Rho sylw

Filed under Uncategorized

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Newid )

Connecting to %s