Tipyn o ymchwil & materion yn codi

Yr wyf yn hoff iawn o adroddiadau blynyddol, papurau cyngor a phethe felly.
Daw’r hoffter o’m  cyfnod fel gohebydd i’r BBC yn Abertawe.
Cymerais i le’r anfarwol T. Glynne Davies* wedi i mi fwrw prentisiaeth newyddiadurol yng ngorsafoedd radio masnachol  Caerdydd (CBC pryd hwnnw) ac Sain Abertawe.
Roedd fy milltir sgwar yn ymestyn ar draws Gorllewin Morgannwg (a’i chynghorwyr sir gwrth-Gymreig a Chymraeg), rhannau o Forgannwg Ganol (Pen-y-Bont a Phorthcawl) a gwaelodion Powys (“Ystradgynlais here I come…”).
“Patch” gwych i unrhyw journo ac, yn bwysig iawn, gyda chryn dipyn o Gymraeg – pwysig achos yr oeddwn gweithio i Radio Cymru’n bennaf a minnau ar fy liwt fy hun.
Dim cyflog i ddibynnu arno, taliad am bob stori felly yr oedd rhaid dod o hyd i straeon!!
(Gyda llaw, hel straeon yw gwaith neywddiadurwr NID creu cynnyrch !!!!)
O ganlyniad, treuliais oriau’n gyrru fy Datsun Cherry lan a lawr ac ar draws y “patch” i gasglu cyfweliadau ac i fynychu cyfarfodydd cyngor !
Ac fe ddaeth lu o straeon o’r adroddiadau blynyddol a chofnodion soniais amdanynt ar gychwyn y blog.
Brawddeg neu ddwy ar dudalen 67 o 195 yn cael gafael arnaf neu rhyw gynnig ger bron pwyllgor gwasanaethu cymdeithasol cyngor rhywle neu gilydd.
Gloddio am straeon. 
Gwaith hir ond fe ddes i o hyd i ambell i drysor yn ystod fy nhair mlynedd yn sywddfeydd oer y BBC yn Heol Alecsandra !
Fast forward 20 mlynedd a mwy.
Yr wyf wedi bod, yn ol fy hen arfer, yn mynd trwy dudalennau adroddiadau cyrff darlledu’n ddiweddar ac yr wyf yn meddwl y byddai diddordeb gennych weldrhai ystadegau a sylwadau. 
Ffwrdd a ni !
*Bwletin Awdurdod S4C Cyfarfod 344 – 21 Ebrill 2011. Soniodd (y Brif Weithredwr) am lwyddiannau S4C yn yr Wyl Geltaidd ac am ei drafodaethau â TG4 a BBC Alba.
*Cyrhaeddiad (“Reach“) wythnosol gorsefydd radio Cymraeg a Gaeleg yn ol adroddiau blynyddol y BBC
BBC Radio Cymru  (611,000 o Gymry Cymraeg yng Nghymru yn ol Cyfrifiad 2001 –  rhoddwyd rhifau nid canranau, fy mathmateg i yw’r %au !)
08-09 25.4% (155,000)
09/10 24% (147,000)
10/11 24.5% (150,000)
BBC Radio nan Gàidheal (Canrannau’n unig a roddwyd – yn ol Cyfrifiad 2001 mae 58,652 yn siarad yr iaith, 33,744 ychwanegol yn deall Gaeleg)
08/09 69.0%
09/10 68.6%
10/11 72.4%.
*Nifer sesiynau gwylio rhaglenni ar Clic (gwasanaeth ar-lein S4C) yn 2010o – 1.6miliwn (Cynnydd 0 44%)
Nifer o geisiadau am gynnyrch BBC Alba ar iPlayer yn 2010 – 1.1miliwn

Diddorol i gymharu’r ddwy wlad a’r ddwy iaith…

Materion yn codi (joc fwriadol)

Gobeithaf y bydd y trafodaethau rhwng S4C a BBC Alba o gymorth yn ystod y cyfnod anodd sydd o flaen y Sianel.

A mater arall …

Ymateb gan S4c i e-bost a anfonais yn seiliedig ar ddwy flog o’m eiddo – Cyfle colledig a Diaspora’n dal i ddisgwyl

Diolch i chi am gysylltu gyda Gwifren Gwylwyr  S4C. Nid gwasanaeth Clic ar gael y tu allan i’r DU oherwydd meddalwedd ‘Geo Blocker’ sydd yn rhwystro ein darllediadau sydd ddim gyda hawliau byd eang. Yr unig raglenni sydd ar gael y tu allan i’r DU ar hyn o bryd yw’r rhaglenni gyda’r neges ‘ar gael yn fyd-eang’ wedi ei nodi wrth y teitlau. Ar hyn o bryd yr unig raglenni sydd ar gael yw Pawb a’i Farn ac CF99. Os  allwn fod o gymorth pellach peidiwch ag oedi cyn cysylltu’n ôl.”

Siarad swyddfa a dim llawer o syndod yn hynny o beth.
Felly, meddwl ydwyf am gynnig syniad chwyldroadol –  beth am wasanaeth misol o uchafbwyntiau S4C ar DVD neu drwy lawrlwytho ? Am bris wrth gwrs.
A chyn i neb ynganu’r gair hawlfraint, yr oedd y BBC yn cynnig yr un fath o wasanaeth ar VHS yn fyd-eang yn ystod yr wythdegau a nawdegau cynnar, yr oeddwn yn danysgrifiwr fy hunan.
Hen ddyddiau da’r fideo …
(*Ym 1975 fe gefais i lofnod T. Glynne ar fy nghopi (anealladwy i mi ar y pryd!) o Gyfansoddidau Eisteddford Bro Dwyfor a minnau’n dechreu dysgu’r Gymraeg diolch i garedigrwydd a haelioni pobl serchus Fferm Bronmiod Llanaelhaearn ac Urdd Gobaith Cymru Pwllheli a’r cylch. O fewn 10 mylnedd yr oeddwn yn ddigion da (gobeithio) i gymryd lle arwr darlledu.  Fel dysgwr ac fel ei olynydd yr oedd T. Glynne yn garedig iawn i mi)

3 o Sylwadau

Filed under Uncategorized

3 responses to “Tipyn o ymchwil & materion yn codi

  1. crisdafis

    Hawdd iawn gwneud cymariaethau gyda ffigurau moel fel hyn. Mae llawer o bethau da ar BBC Alba, ond go brin y byddai cynunlledifa gyfoes Gymraeg yn derbyn yn llawen yr un fath o arlwy.
    Mae llawer iawn o raglenni BBC Alba yn bennau’n siarad neu’n rhaglenni sentimental iawn sydd ag un llygad ar y gynulleidfa sy ddim yn siarad Gaeleg, megis ex-pats hiraethus.
    Fyddai hyn ddim yn gwasanaethu’r gynulledifa botensial amrywiol iawn sydd yng Nghymru.
    Mae gan broffil oed siaradwyr y ddwy iaith rywbeth i wneud a’r llwyddiant hefyd. Angen ystyriaeth ddwys ar hyn oll – nad oes gennyf amser i’w wneud fan hyn. Ond yn sicr dyw cymharu ffigurau moel ddim lot o werth ynddo’i hun.

    • fullcatastrophe

      Nid canmol BBC Alba own i ceisio gwneud…dangos sefyllfa rhywle arall gyda sefyllfa ieithyddol debyg.
      Hefyd…dangos pigion diddorol sy ddim wedi cael rhyw lawer o sylw.
      Re: rhaglenni Alba… Oes, nae’na lawer o siarad a cherddoriaeth OND hefyd mae’na raglenni sy wedi eu lleoli yn y cymundedau gaeleg eu hiaith A rhaglenni o ddiddordeb eang i bobl yr Alban yn gyffredinol. Braf i gael ymateb!!!

  2. fullcatastrophe

    O bosibl mae gan Albanwyr ar draws y byd “proxies” dodgy sydd yn eu galluogi nhw i wylio’r rhaglenni. “I couldn’t possibly comment” !!! :)))

Gadael ymateb i crisdafis Diddymu ymateb