Llafur ar y llawr

Mae pethe wedi mynd o ddrwg  i waeth i’r ferch ben-goch o’r Barri AKA Prif Weinidog Oz.

Ar ol wythnos o werthu y dreth ar carbon mae’r pol piniwn diweddara’n dangos ei bod hi wedi methu’n llwyr i argyhoeddi pobl y wlad amdani – y dreth A hithau !

Mae sefyllfa hi a’i Phlaid Lafur ar 26% ac fe allai’r Glymblaid Geidwadol o dan Tony Abbott ennill etholiad heb angen ail-bleidleisiau (preferences) !!

Felly beth sy’n debygol o ddigwydd ?

Buggared if I know ys dywed y rhan fwyaf o’r bobl yr wyf yn eu nabod !!

Un cwestiwn sydd yn fy meddwl i uwchben unrhyw un arall.

Sut ar wyneby y ddaear y bydd yn bosibl i lywodraeth lleifrifol Llafur – sy’n dibynnu ar gefnogaeth un AS Gwyrdd a chwpl o ASau annibynnol sy’n gefnogol i’r dreth – barhau mewn grym am y ddwy flynedd nesaf?

Mae’na nifer o bethe ar wahan i’r dreth newydd a allai faglu’r llywodraeth ac achosi etholiad cynnar.

Ac wrth i’r llywodraeth ddelio a sefyllfa wleidyddol drychinebus, nid yw’n fel i gyd i’r Glymblaid Geidwadol.

Ar hyn o bryd mae ei harweinydd Tony Abbott ar frig y polau ym ddau reswm tybiwn i.

1) Nid yw’n Julia Gillard

2) Mae’n gwrthwynebu bron popeth y mae’r llywodraeth yn cynnig.

Rhyw dydd y bydd rhaid iddo gynnig polisiau.

Amserau diddorol.

Yn y cyfamser, dyma farn cyn-Brif Weinidog a oedd yn llawer rhy gyfeillgar i’r Frenhines.

Rho sylw

Filed under Uncategorized

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Newid )

Connecting to %s