Mae amseru’n bopeth

Mae gwleidyddion y wlad yn rhuthro o’r naill stiwdio i’r llall ar hyn o bryd wrth iddyn nhw geisio gwerthu neu geisio dinistrio y dreth ar garbon a gyhoeddwyd dros y Sul.

Gwledd o eiriau yw hi, ond nid un arbennig o flasus rhaid dweud.

Nid yw sylwedd yn rhan bwysig o drafodaeathau gwleidyddol yn Awstralia.

Mae’r dyddiau nesaf yn hynod o bwysig i Julia Gillard a’i llywodraeth Llafur lleiafrifol.

Mae angen hwb sylweddol o’r cyhoeddiad dros y Sul i’w codi o waelodion y sefyllfa wleidyddol.

Yn ol pol piniwn a gyhoeddwyd heddiw ond a gafodd ei gynnal CYN cyhoeddi manylion y dreth newydd mae Llafur mewn twll enfawr.

Dywed bod y Glymblaid Geidwadol o fewn cyrraedd ennill llywodraeth HEB angen ail-bleidleisiau (preferences) !!

Mae pleidlais graidd y Blaid Lafur yn 27%.

Pe tai ail-bleidleisiau yn cael eu hystyried fe fyddai’r bwlch rhwng y Rhyddfrydwyr a’i gyfeillion gwledig y Nationals yn 16%.

Ers i Gillard gymryd yr arweinyddiaeth drosodd blwyddyn nol mae Llafur wedi colli grym yma yn Victoria ac yn Ne Cymru Newydd.  Oni bai am ei pherfformiad gwych Prif Weinidog Queensland Anna Bligh yn ystod y tywydd trychinebus yn gynharach yn y flwyddyn fe fyddai’r dalaith honno’n gwbl anobeithiol yn yr etholiad a ddaw ym 2012.

Mae Llafur ar ei phengliniau ar draws y wlad.

Diffyg gweledigaeth, diffyg gallu gwerthu polisiau, diffyg pobl ddawnus ac yn y blaen.

Diffygion ym mhob man.

O fewn y mis fe fydd tynged y ferch ben-goch o’r Barri wedi’i selio.

Neithiwr fe aeth hi ar ein fersiwn ni o “Pawb a’i Farn”,” Q and A“.

Mae’n werth ei gweld os ych chi am gael syniad o’r hyn sydd ohoni yn Oz.

Ac fel arfer mae’r dychanwyr gwych John Clarke a Bryan Dawe wedi dweud hi fel y mae hi.

Advertisements

Rhowch sylw

Filed under Uncategorized

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Newid )

Connecting to %s