Oes, ‘does gennym fananas

Mae’na ddigon o bethau Awstraliaidd i drafod.

Cyhoeddi manylion y “carbon tax” arfaethedig dydd Sul nesaf.  Marwolaeth milwr arall o Awstralia yn Affganistan. Sefyllfa’r diwidiant allforio anifeiliad byw i Indonesia. 

Ond fy hoff ffrwyth sydd biau hi y tro hwn.

Nid yw’r gan wych honno’n gwbl cywir.

Oes, mae gennym fananas ond maent yn ddrud ofnadwy.

Y rheswm yw’r tywydd garw a greodd cymaint o lanast yn nhalaith Queensland yn ystod haf.

Mae’r ffrwyth melyn yn allweddol i economi QLD (a mannau gogleddol eraill) a phan daeth Corwynt Yasi nid oedd modd gwarchod y cnwd.

Collwyd tua dri-chwarter o holl gynnyrch ffermydd bananas gogledd Queensland.

Ac o ganlyniad mae’r prisiau’n anhygoel o uchel ac yn dal yn yr uchelfannau misoedd wedi Yasi. 

Roeddwn yn talu rhwng $3 a $5 y kilo (2 i 3 punt) ar ddechreu’r flwyddyn.

Y bore’ma ym Marchnad South Melbourne fe dalais i $11 am DRI banana (tua 7 punt) !!

Yn ol y son fe fydd y prisiau yn dechreu disgyn ymhen mis neu ddau, ond mae’n debyg bod dyddiau bananas tsiêp ar ben.

Ond ni allaf ddianc rhag y ffrwyth hyfryd hwn na chefnu arno.

Nid yw’r cyfrifiadur newydd fy “status symbol” y dyddiau hyn, ond y banana yr wyf yn bwyta yn y gwaith.

Melyn = aur yn yr Awstralia sydd ohoni.

Rho sylw

Filed under Uncategorized

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Newid )

Connecting to %s