Cyfle colledig (Diaspora disappointed) DIWEDDARIAD

O’r hyn yr wyf yn ei glywed ac yn ei ddarllen mae’na gwyno byth a hefyd yng Nghymru Fach am safon S4C a chynnwys rhaglenni’r  sianel.

Wel, wrth ddefnyddio aml i blatfform …

Nid oes gennym ni, y sawl sy’n siarad Cymraeg ac yn digwydd byw ym mhellafon y byd,  unrhyw glem am gynnyrch S4C ag eithrio ambell i glip ar YouTube a dwyraglen bob wythnos.

CF 99” oedd yr unig raglen sydd ar gael trwy wasanaeth ar-lein “Clic” i bobl y tu allan i’r Deynas Unedig tan yn ddiweddar.

Bellach mae “Pawb a’i farn” ar gael “yn fyd eang”.

Yn wir, cafodd rhyw wyliwr yn Oz “mensh” gan Dewi Llwyd yn ddiweddar.

Yn ol i’r bregeth – boed yn Mhatagonia, Efrog Newydd neu Brunswick West mae’r sawl sy’n medru’r Gymraeg – i ddefnyddio ymadrodd cyfiethiedig erchyll – allan o’r pictiwr.

Paham ?

Yr wyf yn gallu gwylio rhaglenni o Iwerddon, Canada a’r Unol Daleithiau o’m sedd ym maestrefi Melbourne ond fawr ddim yn y Gymraeg.

Nawr, nid wyf yn gwbl naïf. 

Mae’na faterion hawlfraint sy’n atal rhai rhaglenni rhag cael eu darlledu ar-lein wrth gwrs, ond nid POB rhaglen ar wahan i’r hanner awr fywiog  Bethan a Vaughan wrth y llyw a sioe Dewi ‘does bosib ??!!! 

Yn wir, pe tai S4C yn gofyn am daliad blynyddol o’r alltudion am y fraint o gael gweld ei chynnyrch mi fyswn i ymhlith y rhai cyntaf i ddefnyddio fy mhlastig.

A ni fyswn yn eithriad chwaith.

There’s gold in them there Cymry ar wasgar …

Ac i ba le y byddai’r doleri ac ewros a’r yuans yn mynd dywedwch. 

Beth am gronfa i hybu talent newydd neu i ail-wampio’n ddigidol clasuron o’r oes cyn-S4C?

Yr ymateb debygol i’r syniad hwn fydd rhywbeth fel “mae’n amhosibl o dan y sefyllfa ariannol sydd ohoni o dan amodau deddfwriaeth bresennol”.

Mae pob dimai goch yn cyfrif yn achos S4C, felly ni ddylai neb anwybyddu unrhyw gyfle am gynyddu ei chyllid.

Am y tro, diolch am iPlayer Radio Cymru … a’r cyfle i wylio rhaglenni Teledu Maori gydag is-deitlau !!

10 Sylw

Filed under Uncategorized

10 responses to “Cyfle colledig (Diaspora disappointed) DIWEDDARIAD

  1. Mae Golyg, YouTube a gwasanaethau eraill yn dangos yr alw am fynediad tramor i raglennu S4C er dydyn nhw ddim dan drwyddedau swyddogol – eto.

  2. Mae’n hawdd iawn i gael IP ‘ym Mhrydain’ drwy wasanaethau fel hwn.

    Yn amlwg fe ddylai S4C fod yn gallu darparu gwasanaethau dramor, ond mae hyd yn oed corff anferth fel y BBC wedi cymeryd blynyddoedd i wneud hyn. Mae nhw’n dechrau yn araf bach gyda gwasanaeth i’r iPad.

    Nid problem hawliau yw hwn yn unig. Dyw creu system i ddarlledu fideo yn fyd-eang mewn ffordd sy’n effeithiol ddim yn hawdd nac yn rhad, hyd yn oed gyda rhwydweithiau fel Akamai. Er mwyn datblygu a rhedeg system o’r fath dwi’n amau fyddai cost tanysgrifiad i S4C yn llawer uwch na’r £6/mis mae’r BBC am gynnig.

  3. Dewi

    I ddechrau o nin meddwl mai problem hawlfraint oedd o, a dwin cytuno- byswn i yn un or rhai y bysa yn talu am gael gwylio s4c dramor.

    Ond yn amlwg o sylwadau dafydd mae problem technolegol. Oherwydd hyn, pam neith S4C ddim
    Jest rhoi bob dim ar YouTube (fel Channel 4). Oherwydd yn fy marn i, heb law am rhai raglenni chwareon allaim gweld lot o bobol yn torri hawlfraint rhaglenni cymreig. Hefyd Dafydd, er gwybodaeth sut mae cwmniau fel Channel 4 yn gadael fidios YouTube ar gael yn y DU ond ddim yn ee UDA? Ydy hyn yn costio?

    • fullcatastrophe

      Gret i weld y fath ymateb i’m syniad. O bosib YouTube yw’r ateb…ond wedi dweud hynny yr wyf yn gallu gwylio Nuacht TG4 yma yn Oz http://beo.tg4.ie/main.aspx?content=606189171713
      Mae gennyf “proxy dodgy” sydd yn fy ngalluogi i wylio iPlayer felly yr wyf yn cael gweld llawer o raglenni BBC ALBA … o ganlyniad Fraochy Bay am byth!!! http://fraochybay.com/

    • Mae yna gytundeb masnachol rhwng YouTube a Channel 4 er mwyn rhoi archif i fyny, gyda hysbysebion. Hynny yw, mae’n ddigon posib fod e’n cynhyrchu incwm sy’n ddigon i’w gynnal yn y tymor byr. Fase sianel o’r fath gan S4C ar YT ddim yn gwneud elw a felly fase’n rhaid i rywun sybsideiddio’r gwasanaeth.

      Dwi’n amau hefyd fod cytundeb rhwng Channel 4 a’r cwmniau cynhyrchu wnaeth greu’r rhaglenni yn y lle cynta. Mae hynny i gyd yn cymryd arian ac amser i weithio allan. Hyd yn oed gyda cymorth llond llaw o bobl tramor does dim digon o gynulleidfa i wneud hyn yn fenter masnachol ymarferol (os oedd ‘na, fase dim rhaid i S4C gael ei ariannu o’r pwrs cyhoeddus o gwbl).

  4. Rhys

    Cefais ymholiad tebyg gan ffrind o Bwlgaria (oedd yn meddwl mod i’n gweithio i gwmni theledu!), a d wi’n siwr mod i wedi gweld cwestiwn tebyg yn gael ei godi ar rai o’r blogiau Cymraeg o UDA, felly mae’r galw yna. Er bod y nifer o raglenni mae’r BBC yn gynhyrchu ar gyfer S4C yn mynd yn llai ac yn llai, pam nad ydyn nhw ar yr iPlayer fel rhaglenni BBC Alba felly sgwn i?

    (Nid bod o’n gyfreithlon, ond wyt ti wedi gweld Golyg?)

    • fullcatastrophe

      Ahem. Wn i ddim am Golyg ond nid yw’r gair “proxy” yn ddi-eithr i mi !! Ar ben Teledu Maori yr wyf yn dwli ar Alba!!

  5. Hysbysiad cyfeirio: Tipyn o ymchwil & materion yn codi | O Bell

  6. Hysbysiad cyfeirio: C’mon S4C | O Bell

    • fullcatastrophe

      Yr wythnos hon mae’na DDWY raglen ar gael “yn fyd eang” sef CF99 + Taro Naw. Wrth groesi Mor Iwerddon yr wyf yn gallu gweld holl gynnyrch newyddion, materion cyfoes ac yn y blaen RTE. Gwyrdd ein byd! Yn ffodus mae pob rhaglen radio ar gael ar iPlayer – fel un o’m hen ffefrynau fel “The Burkiss Way” http://www.bbc.co.uk/iplayer/console/b00cm26d

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Newid )

Connecting to %s