Dan y Wenallt 2 – ai clasur yw hon ?

Am bennawd beryglus !

Do, mi es i i weld “Dan y Wenallt (Under Milk Wood)” yn y Mechanics Institute Brunswick … er yr holl ofnau.

Dyma’r tro cyntaf i mi weld (a chlywed) y gwaith anfarwol hwn.

Son am lan a lawr.

Nid y perfformiad – roedd ‘na actio ac acenion rhagorol ond nid pob amser – ond y ddrama ei hun.

Mae’n rhy hir ac yn rhy annisgybledig.

Glas sanctaidd – Sacré bleu – OMG !!

Mae’r 20 munud gyntaf yn wych a’r 20 munud olaf yn drawiadol, ond mae’r canol yn gymysgedd o sgetus a man-syniadau.

Mewn mannau mae’na safon a mwy, OND mae’na mannau eraill lle mae’r safon cystal a revue prifysgol gwan.

Yn ei chyfanrwydd, nid yw UMW yn glasur.

Wel, dyma farn y gohebydd hwn.

Drama am natur cariad ac, yn bwysicach, angerdd yw hon. 

Ond nid oes fawr ddim sylweddol o’r fath wrth i’r cymeriadau Cymreig bondigrwybwyll fynd trwy’u stwff rhwng y dechreuad syfrdanol a’r diweddglo chwerw-felys.

Ond, fel pob noson gydag actorion neu gerddorion o’ch blaen chi, yr oedd gweld UMW yn werthchweil.

Advertisements

Rhowch sylw

Filed under Uncategorized

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Newid )

Connecting to %s