Awyr poeth

Dros y Sul bu miloedd o bobl yn protestio led led y wlad.

Y dreth arfaethedig i atal cynydd yn lefelau carbon oedd asgwrn y gynnen.

Rhaid i mi ddweud wrth edrych ar yr adroddiadau, mae’n ymddangos mai’r “usual suspects” oedd yn mynychu’r protestiadau.

Mae’r ddadl wleidyddol am y dreth wedi hollti’r gymuned heb daflu llawer o oleuni ar yr hyn sy’n cael ei gynnig.

Problem y llywodraeth lleiafrifol Llafur yw ei fethiant llwyr i egluro’n syml ac yn egniol paham y mae angen y fath dreth.

Yr oedd y cyhoedd o blaid “gwneud” rhywbeth am newid hinsawdd yn ol y polau piniwn pan nad oedd neb yn cynnig “gwneud” rhywbeth.

Ond roedd y gefnogaeth i bolisiau amgylcheddol yn feddal tu hwnt. 

Gyda grym y diwidiannau mawrion A phapurau newydd Rupert Murdoch ‘nawr yn codi cwestynau di-baid am effaith treth ar carbon mae’r ffordd y cyhoedd yn teimlo wedi newid yn llwyr.

Edrychwch ar y pol piniwn a gyhoeddwyd heddiw (Dydd Llun 6ed Mehefin).

Ai cenedl o NIMBYs yw Awstralia ?

Ta waeth, mae Llafur mewn twll ac mae ei fethiant yn dal i syfrdanu’r sawl sy’n ymddiddori mewn gwleidyddiaeth.

Fel y dywedais, llywodraeth lleiafrifof yw e o dan y ferch ben goch o’r Barri AKA Julia Gillard.

I ychwanegu at ei sefyllfa simsan mae un o’r pedwar aelodau seneddol annibynnol wedi sefydlu plaid newydd a all efelychu camp Pauline Hanson gan ddenu cefnogaeth pobl sy wedi cael llond bol o’r wleidyddiaeth arferol.

Ac mae’na ddwy flynedd i fynd cyn yr etholiad cenedlaethol nesaf!

Advertisements

Rhowch sylw

Filed under Uncategorized

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Newid )

Connecting to %s