Dan y Wenallt, dan bwysau

Mae gennyf gyffesiad. 

Wel, un yn arbennig y tro hwn, mae’na nifer sylweddol fydd yn aros yn guddiedig !

Nid wyf erioed wedi gweld neu wedi gwrando ar “Under Milk Wood“.

Rwyf wedi cael hwyl wrth wylio “Wrth Aros Godot” ac wedi dioddef ambell i gynhyrchiad Cymraeg arbrofol tra roeddwn yn fyfyriwr ffol, ond mae Llareggub yn lle diethr llwyr i mi.

Trwy ddamwain a hap, mae’na siawns i mi – o’r diwedd – neidio ar fwrdd bws Crossville neu Western Welsh damcaniaethol a theithio i bentref glan y mor enwoca ffug-len.

Perfformir “Under Milk Wood” wythnos nesaf yn y theatr agosa at fy ngartref ym maestrefi Melbourne. 

Siawns na ddylwn i golli’r cyfle euriadd hwn ?

Ond …

Mae gennyf ofnau.

Ofnau am yr acenion, yr “agwedd” , yr actio ac …  y gwaith ei hun.

Peth peryglus fydd mynychu’r Brunswick Mechanics’ Institute o bosibl.  (Oes … mae’na Stiwts ym mhob man!)

Ond ni allaf ddianc rhag hon …

Yn y dechrau’n deg  To begin at the beginning

Mae hi’n nos o wanwyn mewn pentre’ bach, heb na lleuad na seren i oleuo’r ffurfafen It is Spring, moonless night in the small town, starless and bible-black

Nac untroed i oedi’n y strydoedd  The cobblestreets silent

Ac mae gallt wargrwm y cwningod a’r cariadon fel herc anweledig And the hunched, courter’s-and-rabbits’ wood limping invisible down to the sloeblack

I lawr at y mor pygddu, dudew fel y fagddu Slow, black, crowblack.

Lle mae’r cychod pysgota yn hen aflonyddu Fishingboat-bobbing sea.

Rho sylw

Filed under Uncategorized

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Newid )

Connecting to %s