Arwr prin

Yn ystod fy ngyrfa newyddiadurol-darlledu (nid wyf erioed wedi galw fy hunan yn newyddiadurwr go iawn) yr wyf wedi bod yn ddigon ffodus i gyd-weithio gydag ambell i gawr ac nifer sylweddol o “bobl dda”.

Ond mae gennyf un arwr.

Jim Lehrer yw hwwnw.

Pwy ?

Yn anfffodus nid yw enw James Charles Lehrer yn gyfarwydd i bobl yr Ynysoedd Prydeinig, hyd yn oed yn rhengoedd holl-wybodus y cyfryngau.

Mae honno’n sefyllfa druenus.

Yma yn Awstralia yr ydym yn ddigon ffodus i gael gweld Jim ar y teledu – diolch i’r drefn.

Mae Jim yn sylfaenydd a chyd-gyflwynydd y “PBS Newshour“, rhaglen newyddion/materion cyfoes ddyddiol rhwydwaith teledu cyhoeddus yr Unol Daleithiau (Public Broadcasting Service).

A ninnau yng nghanol cyfnod lle mae newyddiadura cyfystyr a hel clecs neu hyrwyddo’r diwidiant adloniant yn llawer rhy aml, mae’r “Newshour” yn lle sobor ond nid “boring” lle trafodir cwrs y byd.  Mae’n lle i ddysgu am y “pam” am ddigwyddiadau’r dydd.

Mae ‘di wedi bod fel hyn ers sefydlu’r rhaglen 34 blynedd yn ol.

Nawr mae Jim am adael y “grind” dyddiol ac ynteu’n 77 oed.

Ac wrth wrando ar ei gyhoeddiad fe gewch chi eithaf syniad o’r dyn ei hun. 

Mae Jim Lehrer yn arwr i mi am sawl rheswm ong yn bennaf oll am ei ymrwymiad i’r syniad bod gan newyddiadurwyr UN dyletswydd uwchben pob un arall. I hel straeon a dweud y stori yn y ffordd decach bosibl – dim mwy, dim llai.

Dyma sut mae JL yn meddwl am y ffordd i wenud y job.

Yr wyf wedi ceisio dilyn ei ganllawiau, ond – bobol bach – nid pethe hawdd yw e bob amser gyda phwysau cyllidol, rhifau gwylio a’r peiriant cysylltiadau cyhoeddus.

Yr wyf wedi methu’n fwy na llwyddo – ond ryf yn dal i gyrraedd safonau Jim Lehrer.

A rhag ofn fod bobl yn meddwl bod Jim yn ddyn sych heb yr un owns o hiwmor…

Rho sylw

Filed under Uncategorized

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Newid )

Connecting to %s