Penwythnos lawer rhy hir

Mae’r “benwythnos hir” yn un o’r pethe mwyaf sanctaidd yn Awstralia.

Ond rhaid dweud na fyddai’r Aussie gorau/gwaethaf eisiau mynd trwy’r benwthnos hir yr ydym ni gyd yn mwnyhau ar hyn o bryd.

Penwythnos BUM niwrnod !

Sut felly ?

Dydd Gwener – Gwener y Groglith

Dydd Sadwrn – Dydd Sadwrn arferol

Dydd Sul – Sul y Pasg

Dydd Llun – Dydd ANZAC

Dydd Mawrth – diwrnod bant “in lieu of” Gwyl y Banc Dydd Llun y Pasg

Dyna i chi gasgliad o ddyddiau.

Mae Dydd ANZAC yn ddiwrnod heb ei ail yn Awstralia.  Gwasanaethau coffhau trwy’r bore gan gychwyn am 6 y bore.  Yna gemau pel droed trwy’r prynhawn.  Cymysgedd o faterion ystyrlon a phethe joio.  Dyna i chi Oz mewn ychydig eiriau!

A Dydd Gwener y Groglith yn Oz ? Cymysgedd o’r crefyddol (gweithred leiafrifol) a’r masnachol sefl siopa  (gweithred sy wedi caethiwo’r myafrif  llethol).

A thri diwrnod arall i … i beth ?

Heglu hi am drefi glan mor neu drefi yn y mynyddoedd.

Mae’r Pasg yn fwy nag unrhywbeth arall yn gerrig filltir i’r tymhorau.  

Dyma’r benwythnos pan mae’r gaeaf go iawn yn cychwyn.

Ond mae’r haul wedi bod uwch ein pennau ni’r benwythnos hir, hir yma yn Melbourne.

Mae hyn oll ar ben y benwythnos hir.

A nid yw cael dydd Mercher fel dydd Llun o gymorth chwaith !

Yr unig beth amdani yw – nol i’r gwaith, diolch byth !

Rho sylw

Filed under Uncategorized

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Newid )

Connecting to %s