Sglodion etholiadol – Pen-goch arall DIWEDDARIAD 2

Rwyf yn siwr eich bod chi wedi clywed am Pauline Hanson,  y cyn-berchennog siop pysgod a sglodion a ddaeth i’r amlwg am ei gwleidyddiaeth asgell dde.

Roedd ei haraith cyntaf yn Nhy’r Cynrychiolwyr yn llawn o agweddau hen ffasiwn Awstraliaidd – ofnau am asiaid, taliadau i Aboriginiaid a newidiadau cymdeithasol.

Nawr, mae Pauline Hanson, a oedd am symud i fyw ym Mhrydain ond ychydig fisoedd yn ol, o fewn cyrraedd sedd yn senedd talaith De Cymru Newydd.

A’r rheswm am yr atgyfodiad ?  Sori bois bach, y rheswm yw’s sustem bleidleisio gyfrannol !!!

STV nid AV.

Nawr, mae Hanson yn sefyll am y “Legislative Council” yn NSW, sef yr uwch siambr. 

Ac i ennill lle ar y meinciau cochion yno rhaid i chi ennil yr hyn a elwir yn “quota” mewn etholiad.  Am fwy o fanylion am y gyfundrefn fy hoff bobl anoracaidd ewch i flog y guru etholiadol yn Oz, Antony Green. 

Yn fras, fe fydd tynged Hanson yn cael ei phenderfynu gan lif ail-bleidleisiau (preferences) y Blaid Lafur a’r Gwyrddion. 

Pe tai PH yn dychweld i wleidyddiaeth go iawn mae’n bosibl y bydd yr effaith yn ymestyn ymhell y tu allan i ffiniau De Cymru Newydd.

Hon yw talaith mwyaf o ran poblogaeth y wlad ac mae mwyafrif y cyfryngau wedi eu lleoli yn ei phrif-ddinas Sydney.  Mae NSW’n dylanwadu’n drwm ar yr holl wlad.

Gyda’r ddadl wleidyddol yn mynd yn fwy-fwy rhaniedig yn gyffredinol, fe allai ail-gyfle Pauline Hanson gael dylanwad go sylweddoll.

Mae hi eisoes wedi ymddangos ar lwyfan gwleidyddol ffederal.

Ys dywed y Sais, “watch this space”.

EBRILL 11eg

Mae pethe’n dynn iawn rhwng Pauline Hanson a’r Gwyrddion.  Am y diweddara ewch i’r fan hyn.  Yfory (dydd Mawrth) fe ddaw’r canlyniad.  Yn fy nhyb i mae llawer mwy na sedd goch yn senedd hyna’r wlad yn y fantol.

EBRILL 12fed

 Mae Pauline Hanson wedi colli – ochneidiau ym mhob man

Advertisements

Rhowch sylw

Filed under Uncategorized

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Newid )

Connecting to %s