“Yfory a ddilyn heddiw a ddilyn ddoe”

Mae’r oes digidol mor braf.

Mae pob technoleg newydd i’w chroesawu’n yn frwdfrydig gyda gwen lydan obeithiol.

Wrth gwrs.

Wel, erbyn hyn yn Awstralia Fawr mae gennym bymtheg sianel deledu trwy’r bocs digigol.

Ar wahan i sianeli’r darlledwyr cyhoeddus, ABC a SBS, y cyfan sy wedi dod yn sgil yr ehangu o ddarlledu yw “bloody repeats”.

Mae’n braf i weld ambell i hen ffefryn ond mae rhai o’r rhaglenni a ddarlledir gan sianeli ychwanegol 7, 9 a 10 wedi pasio eu “dyddiaad gwerthu”.

Un enghraifft ryfedd a dychrynllyd i chi.

Am 7 o’r gloch pob nos ar 7Mate … ie, 7 o’r gloch y nos, yr awr orau o’r oriau brig … mae’n bosibl gwylio “On The Buses” !!

A rhaid i gyffesu – wnes i wylio’r rhaglen noson o’r blaen.  Roedd hi mewn du a gwyn o ddyddiau cynnar London Weekend Television.  Y tro diwethaf i mi weld Reg Varney a’i griw roeddwn yn 9 oed.

Technoleg newydd a hen raglen hir-anghofiedig.

Mae technoleg yn newid yn gloi ond nid yw anghenion masnachol sianeli teledu’n newid fawr ddim !

“I hate you Butler…and you 7Mate” !

2 Sylw

Filed under Uncategorized

2 responses to ““Yfory a ddilyn heddiw a ddilyn ddoe”

  1. On The Buses oedd un o’n ffefrynnau i hefyd, ond sa i’n credu byddwn i moyn mynd yn ôl a gwylio fe ‘to.

    Peth gorau ar ein digibocs ni yw’r operau sebon o Nigeria.

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Newid )

Connecting to %s