Colli gwir seren teledu

Nid yw’r gair “cymeriad” hanner digon i ddisgrifio Selwyn Roderick, a fu farw dros y Sul yn 83 oed.

Wrth i mi gychwyn fel rhywfath o ddarlledwr ar ddechreu’r wythdegau yr oedd Selwyn a gweddill y Rodericks yn rhan o’m mywyd i.

Cyfnod cofiadwy a phwysig i mi.

Doedd pethe byth yn “llwydaidd” pan yr oedd Selwyn o gwmpas y lle – boed yn trafod y grefft o greu rhaglenni (nid “swyddog cynhyrchu deunydd” mohono), daddansoddi f’ymdrech ddiweddara ar radio lleol Caerdydd CBC neu gadeirio’r bwrdd cinio Sul !

Wedi i mi glywed y newyddion trist am farwolaeth Selwyn dreuliais dipyn o amser yn hel atgofion am y cyfnod hwnnw.

Ac yn sydyn reit, fe sylweddolais ei fod e wedi bod yn un o’r bobl ryfedd hynny sydd yn eich dylanwadu chi heb i chi sylweddoli’n llwyr ar y pryd.

Roedd’na berlau o ddoethineb, gwybodaeth a phrofiad yn ngeiriau Selwyn a aeth yn ddwfn i’m is-ymwybod proffesiynol.

Yr hyn fe wnes i ddysgu fwyaf ganddo oedd pwysigrwydd dweud stori sy’n gysylltiedig a phobl.

Heb stori, y cyfan sydd gennych fel darlledwr yw gofod wedi’i llenwi.  

Fe grewyd “Plant y Paith”,  “Wales, Wales!”, “Tamed and Shabby Tiger” a’r lleill gan feistr o ddweud stori gan ddefnyddio holl elfennau teledu.

Crefftwr, cynhyrchydd go iawn a chymeriad anghofiadwy.

Fy ngobaith i yw y bydd rhaglenni Selwyn Roderick i’w gweld a’u trysori am flynyddoedd i ddod.

Diolch am ei gyfranniad a’i ddylanwad a phob dymuniad da i’w deulu.

Advertisements

1 Sylw

Filed under Uncategorized

One response to “Colli gwir seren teledu

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Newid )

Connecting to %s