Dweud y gwir

Mae’r newyddion gwelidyddol diweddar o Gymru’n codi’r galon ac mae’na wir angen y fath foddion gan fod pethau yn Awstralia’n wir dor-galonnus.

Mae’r ddadl gyhoeddus yma am godi treth ar “carbon” yn fwy am ymddygiad gwleidyddion na pholisi.

Roedd y llywodraeth leiafrifol Llafur yn gwybod yr oedd ‘na broblemau i ddod pan gyhoeddodd ei fod am gyflwyno’r mesur.

Geiriau’r fenyw pen-goch o’r Barri sy’n achosi’r problemau.

Yn lle cyfaddef yn blwmp ac yn blaen bod pethe wedi newid yn sgil canlyniad yr etholiad – Senedd grog – aeth Julia Gillard ar hyd llwybr llawer rhy gyfarwydd iddi a’i rhagflaenydd Kevin Rudd trwy falu awyr a siarad “gobblegook” gwleidyddol.

Son am gicio’r bel syth i’r gwrthwynebwyr a chofiwch mae arweinydd y Glymblaid Geidwadol, Tony Abbott, yn hoff o’i rygbi.

Mae’r pol piniwn diweddara yn dangos effaith y ddadl hon.

A dyna i chi’r “narrative” am yr etholiad nesaf.

Duw a’n helpo ni !!

Fel rywf wedi dweud o’r blaen yn y fan hyn, mae gweld o bell yn gallu helpu weithiau.

Yn ystod ymweliad fy mrawd i Melbourne fe gafodd “y fraint” o wylio ambell i sesiwn cwestiynau yn Nhy’r Cynrychiolwyr.

Ac heb i mi ofyn, fe ddaeth i’r casgliad canlynol: mae Julia Gillard yn ddi-glem am cyflwyno neges ac mae Tony Abbott yn “wide boy”!

Mwynhewch eich gwleidyddiaeth newydd Cymru fach, mae’r hen wleidyddiaeth Awstralia’n hala fi’n grac !

Rho sylw

Filed under Uncategorized

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Newid )

Connecting to %s