Ynys yr Afalau

Cyfarchion o bellach nag arfer.

Rwyf yn teipio’r blog hwn mewn caffi rhyngrwyd yn ninas Launceston yn nhalaith Tasmania.

Mae’n ddiwrnod heulog, hyfryd ac y prynhawn yma fe awn ni – minnau a’m mrawd – i weld y rasys ceffylau ar ddirwnod y “Launceston Cup‘.

Fe ddaw newyddion am fy llwyddiant ai peidio gyda’r bwcis yn y man.

Mae ynys Tasmania’n atgoffa rhywun o ynysoedd Prydain yn fwy nag unrhyw fan arall yn y wlad hon.  Yn wir, mae Tassie’n wahanol iawn i weddill y wlad frown fawr.  Mae’r dirwedd yn Fro-Morgannwgaidd neu yn Home-Countiesaidd. 

Ond mae’na bethe du yma yn ogystal a gwyrddni’r tir a’r coedwigoedd gwych.

Hanes o garcharorion, rhyfeloedd gwaedlyd yn erbyn yr bobl gynhenid ac agweddau ceidwadol iawn.

Mae presennol yr ynys yn fwy disglair na’i gorfennol.

Roedd y dalaith yn hwyr iawn yn cyflwyno deddfwriaeth parthed hawliau cyfartal ond nawr mae’r lle ymhell ar y blaen.

Pam y newid ?

Gyda shwd gymaint o economi’r dalaith yn ddibynnol ar dwristiaeth mae agweddau hiliol neu wrth-wrywgydiol yn rhywbeth na allai Tassie fforddio cadw pethe fel yr oedden nhw.

Rhaid i mi heglu hi – y rasus amdani!

Ol-nodyn – Fe adnabyddir Tasmania fel Ynys yr Afalau oherwydd ei chynyrch enwoca.

Rho sylw

Filed under Uncategorized

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Newid )

Connecting to %s