Eithriad ac arweiniad

Mae’na un rheol yn y bywyd sydd ohoni.

A’r rheol hon yw: nid oes unrhyw reolau !

Felly, rwyf am flogio yn y Gymraeg ar yr union un destun ac rwyf newydd wedi blogio amdani yn yr iaith arall.

Mae gweld rhywbeth fel y clip isod yn codi calon rhywun ac mae’n rhaid rhannu’r newyddion.

Dyna arweinydd yn arwain.

Peidiwch a fy ngham-ddeall.

Mae’na ffordd hir o flaen yr Unol Daleithiau cyn belled ag y mae hawliau hoyw a lesbiaid yn y cwestiwn, OND o leia mae Arlywydd yr DU ar y ffordd honno. 

Yma yn Awstralia, prin yw’r achlysuron pan glywir y gair “hoyw” mewn dadlau cyhoeddus.

Mae’r bai ar yr arweinyddion gwleidyddol AC ar y gymdeithas hoyw a lesbiaid bondigrybwyll.

Nid yw pwyso botwm “like” ar Facebook neu glicio ar y linc i gefnogi deiseb ar-lein yn werth yr un dimai goch.

Mae’n rhaid i ambell i hen rebel fel fi godi (yn sigledig) ar ei draed/thraed.

Amser a ddengys.

Rho sylw

Filed under Uncategorized

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Newid )

Connecting to %s