Ymwelydd

Mae gwylau ar y gorwel.

Hen bryd hefyd.

Ac mae gan yr wythnos a hanner gyntaf o segura dipyn o her hefyd.

Fe fydd f’unig frawd yn cyrraedd Oz o fewn ychydig ddyddiau ac fe fydd y ddau ohonom gyda’n gilydd am y tro cyntaf ers degawd.

Beth i ddweud, sut i’w ddweud e a phryd i gadw’n dawel?

Dyna gyfrinach unrhyw deulu.

Ond wedi cyhyd heb siarad am fwy na phum munud ar y ffon a chyda’r blynyddoedd yn rhuthro heibio ai hwn yw’r tro i siarad am “bethe go iawn”.

Y pethe sy’n ymwneud a byw a bod. 

Gyda deng mlynedd rhyngddom – yfi yw’r babi – nid ydym wedi cael llawer o sgyrsiau o bwys.

A fydd dau wr canol oed yn tyfu lan o’r diwedd ac yn symud o gysgod y rhieni a’r holl fusnes teuluol ?

Ymwelwyr i fywydau ein gilydd y byddem ni – oes gobaith am souvenir werth chweil i’r ddau ohom?

Rho sylw

Filed under Uncategorized

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Newid )

Connecting to %s