Problem iaith

“Mae’n ddyletswydd arnom i sicrhau fod cynnwys ein gwasanaethau yn ateb gofynion ein defnyddwyr” – Datganiad Polisi Rhaglenni 2011 S4C

Pwy fase’n meddwl ? –  i ddefnyddio teitl boblogaidd o’r cyfnod cyn-S4C. 

Ond, i ddefnyddio cyfeithiad o ymadrodd Saesneg, mae’n dweud cyfrolau am y sefyllfa druenus y sianel a’i gweinyddiaeth bod rhaid dweud y fath beth amlwg (“bleeding obvious” tybiwn i)  yn rhagarweiniad dogfen mor bwysig a Datganiad Polisi Rhaglenni 2011.

Mewn geiriau eraill, fe ddylai S4C ddarlledu rhaglenni y mae pobl eisiau eu gweld. 

Y peth sy’n peri gofid i mi yw’r ffaith bod rhywun rhywle ar hyd coridorau Parc Ty Glas yn meddwl bod angen dweud rhywbeth mor sylfaenol.

Wrth eistedd ym Melbourne, mae’n anodd i mi wybod yn iawn pa mor bell o’r llwybr y mae S4C wedi crwydro. 

Ond mae’r geiriau a  ddyfynwyd uchod yn awgrymu i mi yr oedd y Sianel ar goll yng nghanol anialwch o glipiau hyrwyddo slic, datganiadau i’r wasg di-ddim a graphs yn dangos cynydd yn nifer yr oriau o raglenni a ddarlledwyd.

Rhaid i bob un sy’n gweithio yn y cyfryngau torfol gofio’r gair “torfol”.

Dyletswydd a hanfod unrhyw ddarlledwr yw cyrraedd llygaid a chlustiau.

Wrth i mi ddechreu fy 34ain blwyddyn o ddarlledu llawn amser (CBC, Sain Abertawe, BBC Cymru, WIN TV, Network Ten, Nine Network, ABC) un o’r ychydig bethau sy wedi bod yn gyson i mi a’r ffordd rwyf yn ymddwyn fel darlledwr/newyddiadurwr yw cadw mewn cof bod rhaid i’r stori/bwletin/rhaglen fod o ddiddordeb.

Craidd ein gwaith yw hwn.

“Mae’n ddyletswydd arnom i sicrhau fod cynnwys ein gwasanaethau yn ateb gofynion ein defnyddwyr”.

Taswn i wedi bod yn awdur yr adroddiad holl bwysig hwn fe fyswn i wedi arall-eirio’r frawddeg.

“Mae’n ddyletswydd arnom i sicrhau fod cynnwys ein gwasanaethau’n adlewyrchu ein cynulleidfa a’u herio nhw”.

Geiriau, geiriau, geiriau.

Mae nhw’n dweud cyfrolau !

Rho sylw

Filed under Uncategorized

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Newid )

Connecting to %s