Y tywydd – ni allem rhag hwn

Ar ben popeth, ac o  bosibl yn goron gythreulig ar y cyfan, mae Gogledd Queensland yn wynebu her naturiol a allai greu trychineb waeth na’r lligofydd yn rhannau deheuol y dalaith.

Mae Corwynt Yasi yn agosáu. (Gyda llaw, mae’n “cyclone” i ni yn Awstralia  -yr un peth a “hurricane” yn rhai lefydd  a “tornado” yn llefydd eraill!).

Mae’r Gymraeg yn llygaid ei lle trwy greu un gair sy’n dweud y cyfan sy eisiau ei ddweud – corwynt. 

Eisoes y bore’ma yr wyf wedi siarad a dau gyfaill sy a theulu a chyfeillion yn ardal Cairns, dinas sydd ychydig yn llai o ran poblogaeth nag Abertawe, fydd yn gwynebu nerth y corwynt.

Dyma fideo o ddinas Cairns i roi rhyw syniad o’r lle fel y mae CYN Yasi.

Mae’na wir ofn y gallai Yasi greu difrod enfawr a lladd pobl.

Rhaid i ni gyd groesi bysedd … a phopeth arall.

Fe fydd Yasi yn croesi’r afordir tua amser brecwast Cymru. 

I ddilyn ei hynt, dyma rhai wefannau fydd yn dweud y stori.

Swyddfa’r Tywydd Queensland

Cyngor Dinas Cairns

Tudalen Facebook Cyngor Cairns

ABC FNQ – Gogledd Pell Queensland

Rho sylw

Filed under Uncategorized

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Newid )

Connecting to %s