Safon DIWEDDARIAD

DIWEDDARIAD AR WAELOD Y BLOG PARTHED “SAFON” EIN HANNWYL BRIF WEINIDOG !

 Meddwl yr oeddwn i am safon a diffyg safon.

Safon iaith, safon sgwennu, safon gwisgo, safon hiwmor ac ati.  A’r gwrthwyneb.

Mae safon yn beth anodd iawn i’w ddisgrifio weithiau, mae’n rywbeth personol a chyffredinol ar yr un pryd.

Ta waeth, roedd sylwadau yr Athro Richard Wyn Jones ar CF99  yn sbardun i mi feddwl am bwysigrwydd “safon”.  Roedd RWJ yn son am bwysigrwydd safon uchel o sgwennu a daddansoddi yn y cyfryngau Cymraeg.

(Gyda llaw,  CF99 yw un o’r DDWY raglen yn unig sydd ar gael y tu allan i’r Deyrnas Unedig trwy wefan S4C i’r diaspora Cymraeg – gwarth y byddwn yn blogio yn ei chylch cyn bo hir!)

Yn fy nhyb i, mae’na frwydr barhaol rhwng safon a … wel, pethe di-safon.

A beth yw’r pethe “di-safon” hyn ?  Pethe hawdd, pethe amlwg, pethe rhwydd, pethe sy ddim yn bygwth, pethe sy ddim yn codi cwestiynau ac yn y blaen ac yn y blaen.

Heb “safon” nid oes modd gwerthfawrogi – ie, gwerthfawrogi – y pethe “di-safon”.

Am fyd iach, rhaid i ni gael “Summer Bay” AC “Elsinore”, Celine Dion A Judith Durham, “Masterchef” A “Phlant y Paith”.

Ar ddechreu cyfryngau torfol yr oedd pobl y pethe safonol – John Reith a’i debyg  – yn teyrnasu.

Wrth i ni agosáu at ganrif o ddarlledu mae pobl y pethe di-safon yn ennill y ras gan amlaf.

Rhaid cael cyd-bwysedd. 

Gyda llaw, beth yw”r “trickle down effect” yn Gymraeg ??!!

Son am safon: nid yw prif ddramodydd Awstralia, David Williamson,  yn meddwl llawer am “safon” y ferch o’r Barri AKA Julia Gillard.

1 Sylw

Filed under Uncategorized

One response to “Safon DIWEDDARIAD

  1. Diane

    [i](Gyda llaw, mae CF99 yw un o’r DDWY raglen sydd ar gael y tu allan i’r Deyrnas Unedig trwy wefan S4C i’r diaspora Cymraeg – gwarth y byddwn yn blogio yn ei chylch cyn bo hir!)[/i]
    Ydy, mae hynny yn broblem fawr i ni tu allan i’r DU sy’n dysgu neu siarad yr iaith. Efallai bod rhywbeth bach da yn dod o’r dadl S4C/BBC os byddwn ni’n rhoi rhaglenni ar y we, pan fydd BBC iPlayer ar gael byd-eang (drwy tanysgrifiad ar y iPad).

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Newid )

Connecting to %s