Methiant Muzza ?

Mae’r Awstraliwr Cyffredin (pwy bynnag yw hwnnw!) yn hoff o lysenwau.

Maen nhw’n gallu bod yn ddoniol, yn od neu’n hwy na’r enw gwreiddiol !!!

Mae rhai’n amlwg – “Belly” yn f’achos i!

Ond mae rhai yn reit gymleth. 

Er enghraifft, y cricedwr Terry Alderman.  Ei lysenw e yw “Clem” !  Dyma paham: y gwr fu’n gyfrifol am gae’r Gabba yn Brisbane pan yr oedd Alderman yn chwarae dros Awstralia oedd Alderman Clem Jones !! 

A llysenw bowliwr cyflym arall  Bob Massie a gipiodd 16/137 yn ei gem brawf gyntaf oedd “Fergs”.  Mae’n deillio o Massey-Ferguson !

Felly beth am Muzza – y llysenw Awstraliaidd i unrhyw un sydd a’r enw Murray.

Ond, hyd y gwn i, nid oes fawr neb ym Melbourne’n galw’r chwaraewr tenis Andy Murray yn “Muzza”.

Rhaid i chi licio rhywun i fathu llysenw ar ei gyfer/chyfer.

A nid yw llawer o’m cyd-Awstralwyr yn meddwl llawer am Andy’r Albanwr.

Ac ynteu newydd golli unwaith eto yn rownd derfynol yr “Open” nid oes llawer o obaith i hynny newid  

Maen nhw yn ei weld fel gwr rhy sobor a di-liw.   

Ond mae Muzza’n ddyn llawer mwy diddorol nag y mae rhai’n meddwl.

Edrychwch arno yn dangos ei liwiau Albanaidd yn gwisgo crys-t y grwp ymgyrchu Gaeleg Am Buidheann Dubh.

Oes rhywun yn cofio unrhwy ser o’r byd chwaraeon (ar wahan i’r anfarwol Grav) yn dangos ei daliadau diwylliannol mor glir ???

Gyda llaw, Muzza yw Andy i mi ers tro !

Rho sylw

Filed under Uncategorized

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Newid )

Connecting to %s