Cyfri’r gost

Blog arall o dynnu themau o’r fan hyn a’r fan draw – Awstralia a Chymru.

Themau ariannol ydyn nhw.

Yma yn Oz, mae ‘na ddadl am gynllun y llywodraeth Llafur ffederal i godi treth ychwanegol am flwyddyn i godi arian i dalu am y gwaith o gael Queenslad a Victoria nol ar eu traed wedi’r llifogydd.

Mae’r na o wrthwynebiad yn codi yn ei chylch.  Mae hyd yn oed un o’r taleithau a effeithwyd y gwaethaf yn gwrthwynebu’r dreth.

Peth od ar adegau yw’r ddadl.

Ar yr un llaw mae pobl yn son am haelioni pobl Awstralia, ar y llaw arall mae’r un bobl yn lleisio eu gwrthwynebiad i unrhyw dreth ychwanegol.

Gofyn cwestiwn ydwyf – pam mae gwell gan bobl y wlad hon taflu doleri mewn bwced yn gyhoeddus na thalu’r un swm yn breifat trwy Swyddfa’r Trethi.

A’m ateb ?  Mmmmmmmmmmmm !!!!

Nawr, i “mmmmmmmmmmm” arall.

I Gymru a’r gost o gynnal y wasg Gymraeg.  Rwyf newydd wylio rhaglen “CF99” a ddarlledwyd ar 19eg o Ionawr.

Roedd’na ddadlau rhwng Rhodri Glyn Thomas a’r Athro Richard Wyn Jones am i ba gyfeiriad y dylid rhoi unrhyw arian cyhoeddus a glustnodir go gyfer newyddiadura yn y Gymraeg ar bapur ac ar-lein.

Yn fras, dadl RhGT oedd rhaid cyrraedd i nifer fwya o lygaid, tra roedd RWJ yn pwysleisio pwysigrwydd cael deunydd o safon – straeon a daddansoddi – er mwyn gwneud y siwr bod ein diwylliant yn iach o’i ben lawr i’w waelod.

Fel un sy wedi ennill bywoliaeth ym maes y cyfryngau masnachol a chyhoeddus, rhaid i mi gefnogi Richard 100%.

Mae effaith y fath newyddiadura’n ehangach na chylchrediad papur newydd.

Mae gan syniadau  ffyrdd rhyfedd a diddorol o symud o’r estoterig i mewn i’r gymuned gyffredinol.

Hebddyn nhw, mae’na fwlch mawr yn ein cymdeithas a’r ffyrdd yr ydyn ni gyd yn byw ynddi.

Mae’na fyd o wahaniaeth rhwng llygaid sy’n “gwylio” a llygaid sy’n “gweld”.

Advertisements

2 Sylw

Filed under Uncategorized

2 responses to “Cyfri’r gost

  1. Rwyt ti yn llygad dy le ynglŷn â’r angen sydd am ddeunydd o safon. Does dim pwynt cyhoeddi stwff na fydd neb yn becso ydyn nhw wedi ei ddarllen neu beidio. A gwell fyth os gawn ni ddigon o ddeunydd o safon fel bod y Cymry Cymraeg yn gallu dewis – darllen hwn, gadael arall – o ran diddordeb, yn llew rhyw deimlo ‘y dylwn i ei ddarllen am ei fod yn Gymraeg’. Dim ond un rhan o’r neges yw’r cyfrwng.

  2. fullcatastrophe

    Mae “tyfu lan” yn cynnwys peidio darllen, gwylio, gwrando ac ati gan fod rhywbeth yn y Gymraeg.
    A’r peth braf yw….mae’r “stwff Gymraeg” yn sefyll wrth ochr popeth arall yn eich bywyd.
    Er enghraifft…yn f’achos i: Hoff ganeuon
    Taking A Chance On Love – New York Gay Men’s Chorus
    Glaw – Endaf Emlyn
    He Was Too Good To Me – Mabel Mercer
    Anyone Can Whistle – Lee Remick

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Newid )

Connecting to %s