Dau ddiwrnod – Cariad a chriced

Santes Dwynwen yn dathlu ei diwrnod arbennig ar y 25ain o Ionawr a chariadon Cymreig o bob lliw yn ei chefnogi hi !

Nawr te, nid wyf am ddechreu athronyddu am natur cariad dynol

Mae fy “curriculum vitae” yn dweud cyfrolau am fy niffyg yn y maes hwn !

Ond rwyf yn teimlo’n llawer mwy cyfforddus yn trafod cariad am bethau a llefyd.

Cerdded ar hyd strydoedd oes Victoria Melbourne ac edrych ar y tai, gwylio ffilmiau noir, blasu “custard tart” safonol, ysgytlaeth mefus ar faes eisteddfod, llyfr da, cerddoriaeth sy’n gwneud i mi “deimlo”.

Dyna ychydig o’r pethe yr wyf yn eu caru.  Teimlad llawer dyfnach na “hoff bethau” Julie Andrews gyda llaw !!

A’r llefydd yr wyf yn eu caru ?  Y ffordd yr aethon ni fel myfyrwyr o Abertawe i Aber (Cross Hands, Llambed etc etc), afordir gorllewinol Ynys Deheuol Seland Newydd, yr Illawarra (i’r de o Sydney), unrhyw theatr ar ddechreu perfformiad a’r MCG dan ei sang a’r Bulldogs yn ennill.

Ydwyf, rwyf yn “promiscuous” cyn belled ag y mae pethe a llefydd yn y cwestiwn!!

Ac ar y 26ain o Ionawr mae Awstralia’n dathlu ei diwrnod cenedlaethol.

Mewn gwirionedd, cyfle i chwifio’r faner, gwylio’r criced a bwyta (ac yfed) gormod yw e.

Mae e hefyd yn gyfle i fusnesau wneud pentwr o ddoleri – eisoes heddiw rwyf wedi gweld hamburgers siap Awstralia (heb Tasmania), hetiau melyn a gwyrdd a phob math o kitsch arall.

Diwrnod dathlu i bawb yw e, ar wahan i’r bobl gynhenid wrth gwrs.

Nid diwrnod i ddathlu yw penblwydd Cook a’i griw yn cyrraedd Bae Botany.

Yn llythrennol, du eu byd o hyd yw e.

Ac wrth i’r blynyddoed fynd yn eu blaen a minnau’n ddinesydd Awstraliaidd ers dros 20 blynedd, nid wyyf yn gweld fawr o newid yn nynged yr Aborigine.

Gwarth mae’di bod ar y genedl ers y dechreu a gwarth sy’n parhau.

Nid yw llu o faneri, pentyrrau o burgers a stecs a llynodd o gwrw melyn yn newid hynny.

Rho sylw

Filed under Uncategorized

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Newid )

Connecting to %s