Tonnau a thenis

Wel, mae’r  dilyw wedi ein cyrraedd yma yn Victoria.

Nid i’r fath raddau ag sy wedi achosi cymaint o ddifrod a phoen yn Queensland, ond digon i greu anhrefn mewn trefi cefn gwlad gydag enwau egsotig fel Echuca a Quambatook a rhai  eraill gydag enwau sy’n ymddangos yn gyfarwydd iawn, fel Horsham a Rochester.

(Gyda llaw, fi gynhyrchodd y bwletin newyddion hwn!!)

Yn y dalaith hon mae ‘di bod yn haf hynod o wylb ac mae nifer o’r llefydd sy’n wynebu llifogydd ar hyn o bryd wedi mynd trwy’r broses dwy neu dair gwaith o’r blaen yn ystod y TRI mis diwethaf.

Fel rwyf yn dweud byth a hefyd, gwlad yr eithafion yw Awstralia.

Gyda llifogydd mae’r drychineb yn digwydd yn araf, araf.  Yn achos un dref, Kerang, ni ddisgwylir i’r lle fynd dan dwr tan ddiwedd yr wythnos !

Gem aros yw gwylio’r dyfroedd weithiau. 

A son am gemau, rwyf wrthi’n teipio ochr yn ochr a sawl “backpacker” sy wedi gor-dorheulo –  over done it on the first day – cyn heglu hi am Melbourne Park a Phencampwriaeth Tenis Agored Awstralia sy’n decreu heddiw. 

Rwyf yn clywed Saesneg, Is-Almaeneg a Sbaeneg o’m cwmpas ar hyn o bryd ac am y bythefnos nesaf fe fydd Melbourne yn wir “ddinas ryngwladol”.

Mae’n gyfnod gwych yn ein blwyddyn.

A thra mae pobl Melbourne a’u dinas yn mwynhau heulwen sylw y byd chwaraeon oherwydd yr “Open”, fel arall mae tynged pobl y wlad.

OND mae ser tenis wedi dangos eu bod nhw sylweddoli bod pethe llawer mwy difrifol na sbort yn digwydd yn y wlad hon. 

Codwyd tua $2m o ddoleri gan “Rally for Relief” …. Dwylo dros y rhwyd ????

Rho sylw

Filed under Uncategorized

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Newid )

Connecting to %s