Ble’r aeth yr haul ?

Mae’na lifogydd ac mae’na lifogydd.

Ac mae Queensland yng nghanol llifogydd o radd Feiblaidd.

Rwyf wedi blogio o’r blaen am natur eithafol tywydd y wlad hon.

Wel bois bach mae natur wedi bod ar ei waethaf yn ddiweddar.

Mae’r sychder mawr drosodd ac yn ei le daeth glaw, glaw a mwy o law.

Cost y llifogydd fydd tua $1 biliwn.  Mwy na lai’r union gost o drychineb tannau Victoria 2009.

Effaith La Nina sy’n gyfrifol, sef oeri’r awyr uwchben y Mor Tawel yn arwain at fwy o law.

Effiath y llifogydd fydd prisiau bwydydd yn codi’n dros Awstralia benbaladr gan fod Queensland yn cynhyrchu cymaint o lysiau, ffrwythau a chig.  Yn wir, y ddinas sy’n cael ei heffeithio’n fwy na’r un lle arall, Rockhampton,  yw Prifddinas Gig Eidion.

Rhaid dweud nid yw “Rocky” yn u’r llefydd hardda yn y byd.

Ar wahan i’r adeiladau gwych oes Victoria ar lannau’r Afon Fitzroy, mae’r ddinas yn gyfres o faestrefi di-nod.

Ond mae’na bethe annisgwyl yno.

Un ohonynt yw canolfan rodeo dan-do.

Treuliais i noson ddiddorol yno wrth wenud stori – o ddifri – am effaith rodeo ar “ffrwythlondeb” y marchogion.

Hetiau mawr, siarad araf, cwrw ym mhob man – dyna Queensland i chi!

Fe fydd y ddinas dan ddwr am wythnos arall a mwy ond fe ddaw ei heconomi yn ol o fewn dim.

Yr agwedd fydd “mae’na waith i wneud” …  let’s get on with it.

Dyna i chi Queensland hefyd.

Advertisements

Rhowch sylw

Filed under Uncategorized

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Newid )

Connecting to %s