Blwyddyn newydd arall, cyfle newydd arall

O bellafion Talaith Fuddug gaf i ddymuno Bliadhna Mhath Ùr dhuibh uile, h.y. Blwyddyn Newydd Dda i chi gyd!

Dyna i chi arwydd o UN o’m addewidion am 2011.

Rwyf am fentro i ychwanegu at fy ngallu ieithyddol trwy geisio mynychu gwersi Gaeleg  ym Melbourne.

Iaith gwbl wahanol i’r Gymraeg yw’r Aeleg wrth gwrs.

Fe fydd yn brose ddiddorol !

Gyda llaw, mae ochr dadol fy nheulu’n hannu o’r Alban. 

Mae’r Bells yn rhan o Clan MacMillan/Clan ‘Ic ‘Illemhaoil Abrach meddan nhw wrthyf.

Ond, mae’na “Clan” arall yr wyf yn ymdrechu perthyn  iddo…

Ac ar wahan i’r ymdrech ieithyddol beth arall sydd ar y gorwel ?

Wel, mae digwyddiadau’r wythnos ddiwethaf wedi f’ysgogi fi i gael gwell drefn ar y pethau sy’n wir gyfrif.

Cyfeillion, cysylltiadau personol, y byd sydd ohono.

Gwaith yw gwaith.  Dim byd arall na hynny.

Pobl sy’n bwysig.

Efallai fy mod i wedi cyrraedd “canol oed” o’r diwedd.

Neu, efallai fy mod i wedi tyfu lan … o’r diwedd !

Rho sylw

Filed under Uncategorized

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Newid )

Connecting to %s