Colli – DIWEDDARIAD

Nid oes dwywaith bod marwolaeth yn eich gorfodi i feddwl am fywyd.

Mewn byd lle mae geiriau argyfwng, pwysig, allweddol ac ati i’w clywed hyd syrffed, mae colli rhywun yn rhywbeth go iawn.

Rhaid i ni gyd ddelio a’r sefyllfa bob hyn a hyn. 

Ac mae’r ffordd ein bod ni’n dygymod a hi’n dweud llawer am ein ffordd o ddelio a phethe dydydd i ddydd. 

Trwy’r dagrau a’r poen, a ydynt yn dysgu rhywbeth sylweddol o’r bywyd sy newydd ein gadael ni ?

Collais gyfaill dros y Nadolig.  

Bu farw Ralph.

Nid oedd e wedi bod yn “dda” yn gorfforol ers tro ond roedd ei dafod a’i feddwl yn byrlymu hyd at yr wythnosau olaf.

Dyn wnaeth gyfrannu i’w bobl a’i gymdeithas oedd Ralph.  Gwleidydd, ymgyrchwr, darlledwr, cyfrannwr.

A nid oedd unrhyw dechnoleg newydd yn codi braw arno, roedd e’n ei gweld hi fel ffordd arall o wneud petheu.

Dyn gwneud oedd Ralph.  Roedd ganddo ddigon i ddweud hefyd ond roedd y “gwneud” yn bwysicach.

Ac fel y dywedodd e am unrhyw her ffres: A fydd e’n bosibl i’w gyflawni ?  A fydd e’n hwyl wrth wneud ? Ac, oes’na werth ynddo ?

Is is doable ?  And is it fun ? Is it worthwhile ?

Am y geiriau hynny a cant a miloedd o bethau eraill, diolch Ralph.

Ac fyddaf yn ceisio gwneud  mwy na sgwennu diolch i’th wersi answyddogol, di-ffwdan.

 

Rho sylw

Filed under Uncategorized

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Newid )

Connecting to %s