Dydd San Steffan – MCG amdani !

Nid yw traddodiadau Awstraliaidd fel traddodiadau Cymru.

Mae “gwneud” rhywbeth cwpl o weithiau cyfystyr a thraddodiad yn y wlad hon, yn enwedig i’r dynion marchnata.

Mae’r gem brawf ar Ddydd San Steffan ar y MCG yn “draddodiad” gwell na llawer, ond nid yw ei hanes hanner mor gyfoethog a fyddech chi’n disgwyl wrth glywed yr holl glebran amdani.

Mae’r gem wedi ei chwarae yn ddi-baid ers 30 mlynedd – ai cenhedlaeth yw traddodiad ?  Mmmmm.

Ta waeth, mae’r diwrnod cyntaf yn beth mawr.

Heddiw disgwylir i 90,000 o bobl dyrru i’r Melbourne Cricket Ground.

Er bod y lle’n stadiwm croncrid eithaf llwydaidd erbyn hyn, mae’r parciau o’i chwmpas yn gwneud pethe’n fwy gwaraidd. 

Mae hen gyfeillion yn cwrdd ac yn rhannu picnics ac ambell i barbiciw cyn ac ar ol y chwarae. 

Ac yn ben ar y cyfan, mae’r MCG o fewn tafliad carreg i ganol y ddinas ac mae’r trenau a thramiauyn ei gwasanaethu’n wych. 

O ganlyniad mae dylanwad y gem fawr yn drwm ar y ddinas ai phobl.  A  braf iawn yw hynny.

Mae’r lle’n fwy lliwgar ac yn fwy bywiog ac yn fwy cosmopolitan nag arfer.

Ac wedi’r cricedwyr a’u cefnogwyr codi eu paciau am Sydney, fe fydd ser byd tenis yma am yr Agored.

Rhwng diwedd Rhagfyr a diwedd Ionawr mae Melbourne’n llawn haeddu ei theitl fel prifddinas chwaraeon Awstralia.

Rho sylw

Filed under Uncategorized

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Newid )

Connecting to %s