Croeso Nigel – nodyn personol

Blynyddoedd maith yn ol roedd Nigel Evans, AS dros Ddyffryn Ribble, yn was i mi.

Fe ddylwn i egluro’n gloi!

Roeddwn yn drysorydd Undeb y Myfyrwyr, Coleg y Brifysgol Abertawe ac roedd Nigel yn aelod reit effeithiol o’m Pwyllgor Cyllid.

Roedd e’n Dori rhonc pryd hwnnw ac ynteu’n 19 neu 20 oed, ond roedd ganddo hiwmor parod a’r ewyllys i wneud pethe’n hytrach na dweud a dweud a dweud.  Ah gwleidyddiaeth myfyrwyr !!

Roedd’na ambell i ffrae rhyngddyn ni, ond ni fu pethe’n gas erioed.

Yn eironig braidd, roedd y ddau ohonom yn debyg i’w gilydd trwy ein rhywioldeb – ni’n dau yn ymladd ein ffyrdd ein hunain i gael trefn ar bethe personol ac emosiynol.

Mae taith Nigel wedi cyrraedd yr uchelfannau erbyn hyn.

Roedd ei gyhoeddiad yn y papurau dros y Sul ei fod yn hoyw ac yn fodlon ei fyd yn rhywbeth wnaeth godi fy nghalon. 

Da iawn Nigel, rwyf yn browd ohonot ti. Nawr, ewch ati i ddysgu’r Gymraeg!!!

OL NODYN

Aelod arall o’m Pwyllgor Cyllid oedd … Peter Black !

2 Sylw

Filed under Uncategorized

2 responses to “Croeso Nigel – nodyn personol

  1. Neis i gael sylw ar MP sy ddim yn gas ac yn amlwg bod Nigel yn ddyn Neis. Dyma un arall at y rhestr o Gymry howy yn y byd gwleidyddol ar ol Adam Price , Ron Davies (o bosib) ac eraill!

  2. Reblogged this on petroc and commented:
    Nigel wedi dod mas i’r byd ac Heddlu Sir Gaerhirfyn wedi ei erlyn – efallai bydd hyn yn mynd i ddigwydd i unrhyw MP stret sy’n neud pas at ferched hefyd?

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Newid )

Connecting to %s