Tro, tro, tro

Un o ddywediadau gorau Saesneg Awstraliaidd yw “Come in spinner“.

Mae’n tarddu o’r gem hap chwarae “two up” sy’n cael ei chwarae ar ddiwrnod coffhau rhyfeloedd (Anzac Day).

Mae e hefyd yn ddywediad reit handi ar faes criced.

Mae cysgod troellwr arbennig yn drwm ar gyfres y Lludw. 

Ie, Warnie.

Y tecstiwr enwog.  Perchennog gwallt newydd arbennig.  Cyfaill agos Liz Hurley.  A bowlier gorau Awstralia yn hanes criced. 

Mae’n bedair blynedd ers iddo droelli ei “wrong ‘un” (googley) olaf  i’r tim cenedlaethol, ond mae enw Shane Warne’n ymddangos ym mhob erthygl sy’n ymneud a’r gyfres bresennol yn erbyn Lloegr (a Chymru) .

Wrth i dim Ricky Ponting fynd o un drychineb i’r nesaf, mae enw “Warne” yn cynnig hud a lledrith a allai ddatrys pob problem cricedol dan haul.

Nid oes dwywaith yr oedd SK Warne’n ddewin o fowliwr, ond fe fyddai camu’n ol a’i ddewis go gyfer cyfres y Lludw’n gamgymeriad mawr.

Y gwir plaen anffodus yw hyn: nid yw tim Awstralia yn ddigon da.  Nid tim mohono ond casgliad o chwaraewyr criced sy’n ennill cyflogau bras.  Yn wir, mae geirfa erchyll y cyfweliad chwaraeon yn gywir am unwaith : “uned” ydyn nhw.  Ac “uned” go simsan.

Ac mae’na wir plaen anffodus arall.  Mae criced mewn argyfwng.

Yn yr oes bresennol lle mae llwyddiant yn holl bwysig a nid oes lle i fethu nac i aros tipyn cyn lwyddo, ni allai’r gamp fforddio (ym mhob ystyr) golli a cholli mor wael.

 Criced yw camp genedlaethol Awstralia.  Yr unig un sy’n cael ei chwarae ym mhob talaith.

Ond nid oes ganddi’r hawl i gadw ei statws.  

Ond wedi dweud hynny mae’n rhaid i mi ddweud fod y dyfodol sy’n bwysig, nid y gorffennol.

Felly fe ddylai Warnie gadw draw o’r llain … a’i ffon … ymhlith pethau a phobl eraill.

Rho sylw

Filed under Uncategorized

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Newid )

Connecting to %s