Trwch blewyn – eto ! DIWEDDARIAD

Am y CHWECHED tro yn olynnol mewn etholiadau taleithiol a chenedlaethol yn Awstralia y mae’r cyhoedd wedi penderfynu i gosbi llywodraeth ond i beidio ethol un newydd gyda mwyafrif mawr.  Y drefn yw: Northern Territory, Gorllewin Awstralia, Tasmania, De Awstralia, Awstralia gyfan ac yn awr Victoria.

Dau ddiwrnod wedi’r pleidleisio mae Llafur a’i harweinydd John Brumby wedi ildio i’r ffeithiau.  Maen nhw wedi colli.

Yn ol y ffigurau diweddara fe fydd gan y Glymblaid Geidwadol mwyafrif o ddwy sedd yn y dalaith hon.  Am fwy o fanylion am y sefyllfa ewch i’r fan hyn ac i’r fan hyn.

Y Brif Weinidog (Premier) newydd fydd Ted Baillieu, yn bennaeth ar y llywodraeth ceidwadiol cyntaf yn Victoria yn y ganrif hon!

Ted Baillieu (ar y chwith) gyda John Brumby (arweinydd y Blaid Lafur)

Roedd’na ogwydd o tua 6% o Lafur, sy wedi bod yn llywodraeth ers 11 blynedd, i’r Rhyddfrydwyr a’r Blaid Genedlaethol (National Party).

Fel sy’n digwydd pan mae grym yn symud yn y wlad hon, roedd y seddi yn symud yn y maestrefi lle mae pynciau bara menyn yn teyrnasu – trafnidiaeth cyhoeddus, y gwasanaeth iechyd, cyfraith a threfn.

Mae pobl eisiau’r pethe hyn gweithio wrth iddyn nhw ffwdanu am dalu am eu tai, gofalu am eu plant a mwynhau eu ceir a chychod.

Dyna beth syn cyfrif nid “pethau mawr” fel yr amgylchfedd a hawliau dynol.

Etholiad i ethol rheolwyr oedd e  felly

O ganlyniad ni lwyddodd y Gwyrddion i dorri trwodd.  Ennillwyd ychydig yn fwy o bleidleisiau ganddyn nhw ond nid oedd eu perfformiad yn hanner cystal ag yr oedd ambell i bol piniwn yn awgrymu.

Fe fydd y Glymblaid yn ffurfio llywodraeth gyda mwyafrif (tebyg) o 2.  Felly llywodraeth mwayfrifol….ond dim ond jyst. 

Am y bedair mlynedd nesaf fydd rhaid iddn nhw wneud yn siwr nad ydynt yn gwneud smonach o’r bara menyn cyn ymestyn am y jam.

Rho sylw

Filed under Uncategorized

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Newid )

Connecting to %s