Bwrw pleidlais nid llenwi ffurflen

Rwyf newydd bleidleisio yn etholiad taleithiol Victoria.

Wrth i my gyrraedd yr ysgol gynradd leol yn Brunswick West yr oedd’na lu o weithwyr y pleidiau yn cynnig taflenni i bob un a gerddodd heibio.

Gwnes i wrthod derbyn yr un daflen – roeddwn i wedi meddwl ymlaen llaw am bleidleisio, ond eithriad prin yr oeddwn i mae’n debyg.

Ffurflenni “sut i bleidleisio” neu “How to votes” yw’r taflenni.

Rhaid oedi o bosib i alluogi rhai ohonoch i grafu eich pennau – sut i bleidleisio ????!!!!!

Gan fod pleidleisio’n orfodol yn Awstralia mae pob pleidleiswr “yn y gem” cyn belled ag y mae’r pleidiau yn y cwestiwn.

Neu i fod yn gas, mae gwerth fy mhleidlais i – pleidlais rhywun sy’n dilyn ymgyrch ac sy’n edrych ar bolisiau – yr un fath a rhywun di-glem a di-ddiddordeb.

Cas neu fynegi gwir anffodus ?

Wel, roedd yn glir i mi y bore’ma nad oedd fawr neb oedd a phensiliau yn eu dwylo’n gwybod beth yr oedden nhw’n gwneud neu, yn waeth byth efallai, yn gweld problem yn hynny o beth.

Oherwyd pleidleisio gorfodol nid oes rhaid i’r pleidiau ymladd i gael i bobl allan o’u cartrefi i bleidleisio. 

Felly mae lefel y gweithgarwch gwleidyddol ar lawr gwlad yn sobor o isel.

Nid oes angen pobl weithgar yn rhengoedd Llafur, y Glymblaid a’r Gwyrddion.  Mae’r wladwriaeth yn sicrhau bod gan y bleidiau “gynulleidfa” doed a ddelo.

Dyna paham mae ymgyrchoedd etholiadol yn y wlad hon mor negyddol.  Ymgyrchoedd y lowest common denominator” ydyn nhw.

Y neges yw: peidiwch a phleidleisio dros y ffyliaid eraill gan eu bod yn glowns neu’n “crooks”.

Nid cymdeithas sifil iach mo hon.

Teimlais yn dra unig wrth i mi fwrw pleidlais, tra roedd mwyafrif y lleill yn llenwi ffurflen dan orfodaeth.

Ffordd od o ddemocratiaeth.

Advertisements

Rhowch sylw

Filed under Uncategorized

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Newid )

Connecting to %s