Weimar Newydd ?

Harold Macmillan, asked what he most feared, replied, ‘Events, dear boy, events’

Unwaith eto rwyf yn gwylio “digwyddiadau” o bell.  Ac weithiau mae peidio bod “yno” o gymorth wrth geisio deall beth sy’n mynd ‘mlaen.

O’r hyn rwyf wedi clywed a gweld ar Raidió Teilifís Éireann, mae’r sefyllfa truenus yn Iwerddon yn llawer mwy nag argyfwng economaidd.

Mae’n eglur bod Gweriniaeth Iwerddon yng nghanol argyfwg gwleidyddol peryglus.

Mae pobl yn dechreu son am ddiddymu’r Weriniaeth fel y mae a sefydlu cyfundrefn newydd.

Y geiriau a glywir yw “ofn”, “gwarth”, “anobaith”, “trauma” ac yn y blaen. 

Mae gwlad orllewinol, sy ddim yn annhebyg i Gymru neu Awstralia, yn gwynebu’r posiblrwydd arswydus o  “fethu”.

Darllenwch eich hanes modern i weld yr hyn a allai ddigwydd nesaf.

Mae 47% o bobl Iwerddon yn cefnogi’r syniad o’r wlad, gwlad a ennillodd annibynniaeth wedi brwydrau gwaedlyd a hir, yn cael ei llywodraethu gan yr Undeb Ewropiaidd a’r IMF !

Dyna i chi syniad o ddyfnder yr argyfwng.

I gael syniad o’r teimladau sy’n bodoli yn y Weriniaieth ymysg y bobl,   gwyliwch fersiwn RTE o “Pawb a’i Farn” a ddarlledwyd ar nos Lun yr 22ain Tachwedd (The Frontline).

Mae’r dosbarth gwleidyddol wedi methu’r bobl – ble nesaf ?

Ai Weimar y ganrif hon yw Iwerddon ?

Rho sylw

Filed under Uncategorized

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Newid )

Connecting to %s