Pleidleisio eto

Dydd Sadwrn nesaf fe fydden ni – pobl Victoria – yn bwrw ein pleidleisiau mewn etholiad taleithiol.

Yn fras, mae Llafur wedi bod wrth y llyw am 11 blynedd ac mae’r wrthblaid wedi methu i ddod yn agos i’w disodli nhw yn y cyfnod hwnnw – ys dywed yr Awstraliawr:”within a bull’s roar” !!

Cyfrinach Llafur o dan Steve Bracks ac yna John Brumby oedd gwneud eu plaid yn blaid naturiol fel llywodraeth trwy beidio a dychryn y cyhoedd a thrwy sefyll yn y canol nid y chwith.

Hanes oedd y rheswm.

Yn yr 80au, pan yr oedd Lafur yn rhedge pethau, aeth y dalaith trwy gyfres o drychinebau economaidd.  Erbyn y diwedd roedd plaid y bobl wedi colli ffydd y bobl ym mhob dosbarth.  Yr oedd Victoria yn yr un fath o gyflwr mae’r Gwyddelod yn dioddef heddiw – “basket case” ys dywed yr Awstraliwr lliwgar hwnnw !

Yna daeth y ceidwadwyr i reoli’n llawdrwm Chicagoaidd.  Yn  y 90au fe welwyd y Glymblaid yn tynnu ‘nol ar wariant cyhoeddus, preifateiddio popeth o fewn eu gallu ac yn y blaen.  Roedd yr economi wedi gwella’n arw ond erbyn 1999 roedd ‘na deimlad bod y pendil wedi symud yn rhy bell i’r eithaf arall. 

Felly llwyddodd y Blaid Lafur i ddod o hyn y’r “llwybr canol” – digon o wario cyhoeddus i gadw pobl yn hapus a digon o rwydd hynt i’r sector breifat, yn enwedig y diwidiant adeiladu (cyfranwyr hael i goffrau’r ddwy blaid fawr).

Roedd y ceidwadwyr ond yn gallu hyrwyddo’r un fath o bolisiau gydag ambell wahaniaeth – roedd eu hen gyfeilles “Laura Norder” yn ffefryn iddyn nhw.

O ganlyniad, mae gwleidyddiaeth Victoria’n rhywfath o “Fo a Fe” erbyn hyn (Tweedledum & Tweedledee).

Y Gwyrddion yw’r unig blaid sy’n dweud pethau gwahanol a syfrdanol.

Felly pa ffactor fydd yn perswadio pobl y dalaith i newid llywodraeth ?

Mewn cyfundrefn lle mae’n orfodol i chi bleidleisio ac mewn cymdeithas sy’n gweiddi “boring” ar ol cyfnod o amser, rwyf yn meddwl y bydd pobl yn newid er mwyn newid.

Nid oes ‘na lawer o berygl mewn newid plaid chwaith oherwydd y diffyg gwahaniaeth sylfaenol rhwng Llafur a’r Glymblaid – “low risk strategy”… er nid wyf  wedi clywed unryw Awstraliwr yn defyddio’r term ond mae  “she’ll be right” yn gyfeithiad eithaf da ohono !!

Felly, wrth i bobl sefyll mewn ysgolion a neuaddau dydd Sadwrn nesaf, yn barod i bleidleisio, fe fydd llawer iawn ohonynt yn meddwl nid am athroniaeth gwleidyddol neu bolisi cyhoeddus.  Fe fyddan nhw’n meddwl “mae’n bryd am newid”.

“It’s Time”.  Slogan Llafur Ffederal ym 1972.

Pryd hynny, roedd ‘na ddewis go iawn. 

Ym 2010 yr hyn sy’n weddill yw slogan.

1 Sylw

Filed under Uncategorized

One response to “Pleidleisio eto

  1. Hysbysiad cyfeirio: Bwrw pleidlais nid llenwi ffurflen « O Bell

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Newid )

Connecting to %s