Mmmmm. Y Sianel. Eto. DIWEDDARIAD

Rwy’n eistedd ymhell o ganol y frwydr am ddyfodol Sianal 4 Cymru, ond ni allaf ddianc rhagddi.

Wrth i mi wrando ar Rhodri Glyn Thomas ac eraill siarad yn ystod dadl y Cynulliad ynghylch y sianel rwyf wedi dod i gasgliad annffodus ond pendant.

Mae gan Cymru fach bellach ddosbarth o wleidyddion sy’n siarad a siarad a siarad ond sy’n dweud dim llawer.

A nid oes mymrym o ymchwil yn perthyn i lawer o’u sylwadau chwaith.

Nid rhethreg mo hwn, ond llenwi amser a gwneud dim tra’n gwneud swn.

Fe hoffwn i fod yn llawer mwy cas, ond rwy’n wr neis-neis.  Honest Guv.

Y cyfan dywedaf yw hyn: A wnewch rywun rhywle ddysgu’r Cymry sut i ddweud “BBC Alba” yn gywir os gwelwch yn dda.  “Ala-ba”.

A hefyd, mae’n anffodus (a ddweud y lleiaf) i glywed cenedlaetholwr a Chymro Cymraeg fel Rhodri Glyn yn sarhau ymdrechion yr Albanwyr dros eu hiaith.

Rwyf yn disgwyl i Dori twp o’r Shires i wneud sylwadau o’r fath, ond Rhodri Glyn ???!!!!

Nid yw hi cweit “nos da” ar y “Gaidhlig” eto.

Nid oes gan y Cymry fonopoli ar sut i achub iaith gyfeillion annwyl!!

Ffilmiau newydd, y maes digidoldysgwyr o bob lliw a chartwn gwell o lawer na Super-blydi-Ted !!!

Ac fel rwyf wedi dweud o’r blaen, roedd yr optiwn Albanaidd o fewn golwg am ddwy flynedd ond nid oedd NEB yn edrych i’r pellter posibl!

DIWEDDARIAD: Rhag ofn nad wyf wedi ei gwneud hi’n ddigon clir: rwyf 100% o blaid cadw S4C yn nwylo’r Cymry AC rwyf 100% o blaid y Cymry yn cadw eu llygaid ar agor !

Rho sylw

Filed under Uncategorized

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Newid )

Connecting to %s