Mae Senedd Awstralia newydd basio cynnig sy’n annog Aelodau Seneddol i ofyn am farn eu hetholwyr am briodas hoyw.
Mae hyn yn dilyn dadl yn Nhy’r Cynrychiolwyr sy wedi gwthio’r Brif Weindog Julia Gillard i ben pella cornel lletchwith.
Mae hi’n dal i wrthwynebu’r syniad mewn ffordd ryfedd er bod y pol piniwn diweddara’n dangos bod 60% o blaid y fath ddefodau.
Darllenwch ychydig yn fwy am y sefyllfa yn y fan hyn.
Mae ymgyrchwyr hoyw (a’u cyfeillion) yn barod am ran nesaf y rhyfel di-angen hwn.
Ac fe fydd rhaid i”r Brif Weinidog ac Arweinydd yr Wrthblaid wynebu’r sawl maent, ill dau, am wahardd rhag rhannu cariad yn gyhoeddus.
Cyfarfodydd diddorol sydd o flaen i’r ferch o’r Barri a’r Cockney Ceidwadol.
DIWEDDARIAD:
Y gair olaf a gwych am yr holl fusnes. Erthygl o wefan Crikey sy’n dweud y cyfan sy eisiau ei ddweud.