Byw’n llon DIWEDDARIAD

Pan roeddwn i yn y coleg yn y 70au yn Abertawe yr oedd polisi dwyiethrwydd Undeb y Myfyrwyr yn ei blentyndod ac ‘roedd ‘na ambell i enghraifft doniol o gam-gyfieithu.

Ar bob poster gyda “Gay Soc.” fel pennawd yr oedd “Y Gymdeithas Lon” ar ei waelod !

Nawr, roeddwn i pryd hynny,wastad yn “llon”, ac fe es i, yn raddol, yn gartrefol “llon” hefyd ! 

“Hoyw” sy biau hi nawr, ond mae’na rhyw hiraethu yn f’enaid am yr oes “llon”.

Heddiw yn Awstralia mae “hoyw” yn y newyddion gyda’s senedd y trafod cynnig gan y Gwyrddion ynglyn a phriodas hoyw.

Ni fydd pleidlais go iawn yn cael ei gynnal, ond fe fydd y ddadl yn taflu goleuni ar agweddau cymdeithasol a gwleidyddol yn yr Awstralia sydd ohoni.

Mae cyhoeddiad arolwg barn yn awgrymu y dylai ein Seneddwyr gefnodi priodas hoyw yn gloi. 

Mae mwy a mwy o bobl yn gweld y gwaharddiad ar hoywon a lesbiaid rhag briodi yn nonsens anheg.

Wrth gwrs mae rhai pobl grefyddol cadarn yn benderfynol o rwystro pobl fel fi rhag ddathlu cariad a theyrngarwch yn llygaid y gyfraith, ein teuluoedd a’n cymdeithas.

A beth yw agwedd ein hannwyl Brif Weinidog Julia Gillard ynglyn a phriodas hoyw ?

Mae’r ferch o’r Barri yn aelod o asgell chwith y Blaid Lafur ac yn anffyddwraig, ond yn rhyfedd (ac yn gywilyddus) mae hi’n gwrthod y syniad o briodas hoyw ac yn gwrthod datgelu pam ag eithrio son am “bolisi” ei phlaid.

Dyma ei “heglurhad”:

Gwleidyddiaeth pur a siomedig.

Mae Gillard wedi siomi llawer o bobl, hoyw ai peidio, ar y mater hwn ac mewn llawer o meysydd eraill – blogiau i ddod !!

Ond ar y llaw arall, mae ei styfnigrwydd hefyd wedi cael yr effaith o gryfhau’r ymgyrch o blaid priodas hoyw.

1 Sylw

Filed under Uncategorized

One response to “Byw’n llon DIWEDDARIAD

  1. Hysbysiad cyfeirio: Byw’n llon 2 « O Bell

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Newid )

Connecting to %s