Gwynebu trasiedi – clicio yn lle gwneud

Nid yw hwn yn blog hawdd.

Ond teimlaf fod rhaid i mi ddweud fy nweud wrth ymateb i stori erchyll a thrist yma ym Melbourne.

Dyma i chi “penawdau’s stori”

A BASHED teenager posted his final thoughts on Facebook, unaware he was dying. In a string of haunting messages, Cameron Lowe described his pain and confusion at being bashed just hours before falling into a coma.

(Herald-Sun – papur mwya poblogaidd Melbourne)

Mae’n ymddangos ein bod ni’n byw erbyn hyn mewn byd lle mae gwell gan bobl fynegi eu poen, eu hofnau a mwy ar-lein ar safle Facebook yn hytrach na siarad yn uniongyrchol a’u cyfeillion neu’u teuluoedd.   

Ydyn ni’n disgwyl rhyw wyrth ddigidol i ddigwydd wrth i ni heglu hi tua Facebook a llefydd digidol/afreal eraill  ? 

 Ydy postio bellach cyfystyr a gwneud ?

Mae’na fyd o wahaniaeth rhwng clicio ar botwm  a chodi o’ch cadair.

Mae’na fyd o wahaniaeth rhwng dweud eich bod chi’n teimlo’n isel eich ysbryd neu’n dost a gofyn am gymorth.

Ydy’r we fyd-eang yn ein lleihau ni fel pobl sy’n perthyn i’r byd real sydd ohono ?

Ydyn ni’n colli ffyrdd o feddwl ac ymddwyn yn naturiol (intuitive) ?

Wn i ddim, ond rwyf yn dechreu ofni bod rhywbeth mawr o’i le.

Mae’na un peth yr wyf yn gwbl sicr ohono – mae stori Cameron Lowe yn drasiedi ar sawl lefel.

Rho sylw

Filed under Uncategorized

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Newid )

Connecting to %s