Ffasiwn beth ? – Ymwelwraig o DC

Rwyf yn son byth a hefyd am ogoniant y ddias a saif ar lannau’r Yarra, sef Melbourne.

Nawr mae Hillary Clinton wedi cael y cyfle i flasu ychydig o’m dinas fabwysiedig.

 Mae ei hymweliad wedi bod yn gymysgedd o wleidyddieath a thwristiaeth.

Dydd Sul treuliodd Clinton y diwrnod yng nghwmni’r brif weinidog Julia Gillard gyda llawer o chwerthin a geiriau gwag llawn cyfeillgarwch.

“Nid oes gan yr Unol Daleithiau ffrind gwell nag Awstralia,” meddai’r Ysgrifennydd Gwladol yn ei “leisure suit” tangerine erchyll.

Ac i’r rhan fwayf o bobl y wlad roedd hynny’n ddigon o lawer, ffasiwn gwael ai peidio.

Mae gair caredig neu ddau gan rywun pwysig o bell yn sicrhau pobl Awstralia ar ben eu digon ac yn dal i gredu eu bod nhw’n byw yn y wlad orau yn y byd.

Mae’r cultural cringe yn fyw ac yn iach.

Beth mae ymweliad byr Clinton wedi cyflawni – ar wahan i lenwi oriau o deledu a radio ??

Mae Hillary wedi siarad am bwysigrwydd o gadw Awstralia fel rhan o’r lluoedd yn Afghanistan, mae hi wedi son am gynyddu ynni o’r haul ac wedi dweud yn blwmp ac yn blaen ei bod hi’n casau Vegemite.

Yn bwysicach nag unrhywbeth, o bosibl, yr oedd y ffaith ei bod hi’n sefyll wrth ochr y ferch o’r Barri. 

Roedd angen ar Julia Gillard ymddangos ei bod hi’n arweinydd go iawn a’i gobaith, tybiwn i, oedd y byddai rhannu llwyfan gydag Arweinydd o gymorth.

Ond aeth pethe’n smonach.

Mae Gillard yn dal i fyw o hyd dan gysgod y coup gwleidyddol a ddisodlodd Kevin Rudd fel Prif Weinidog.

Ac wrth i HRC gyrraedd yr oedd K-Rudd yno fel y Gweinidog Materion Tramor jyst i atgoffa bawb ei fod e “yma o hyd”…o hyd.

Ac ar ben popeth, wnaeth Clinton gyfeirio at Kevvy fel “Prif Weinidog”.

 Ennill a cholli, ennill a colli  yw hanes Gillard.

Gadael sylw

Filed under Uncategorized

Gadael sylw