Cenedl ar stop – DIWEDDARIAD

DIWEDDARIAD AR Y GWAELOD

Meddyliwch am gyfuniad o ddiwrnod gem ryngwladol yn yr hen Barc yr Arfau, Eisteddfod Genedlaethol a’r Eurovision Song Contest.

Dyna i chi yr hyn a elwir “the race that stops a nation”, sef Cwpan Melbourne.

Wel, rhyw syniad o’r effair mae’r ras 3200 medr hon yn cael ar Awstralia.

Mae diwrnod y Cwpan yn wyl gyhoeddus yma yn Victoria ac mae canol dinas Melbourne, wrth i mi deipio, yn dawel iawn ar wahan i’r arosfanau tram lle mae’na pob math o greaduriaid “wedi gwisgo lan” ac yn ysu bod yn Flemington lle cynhelir y ras fawr.

Erbyn diwedd y dydd fe fyddan nhw wedi profi’r diwrnod hyd yr eithaf.

Rwyf wedi blogio yn y Saesneg am y “species” arbennig o “racegoer” yn y fan hyn !!

Mae’n drysu llawer o bobl o tu fas bod y ras am y Cwpan mor fawr.

Mae hoffter yr Awstraliwr/wraig am chwaraeon a betio yn rhan ohono.

Ond mae datblygiad y genedl a thechnoleg yn rhan arall, yn fy marn i.

Pan ddaeth radio i’r wlad hon yn yr 20au un o’r pethe cyntaf i’r technegwyr gyflawni oedd cysylltu’r taleithiau pell oddi wrth eu gilydd a thrwy hynny creu syniad o genedl unedig.

Felly roedd ras am y ceffylau gorau yn y wlad gyfan (a Seland Newydd), fel yr oedd Cwpan Melbourne wedi datblygu yn ei hanner canrif cyntaf, mewn sefyllfa ddelfrydol i dyfu fel “digwyddiad”.

Yn yr un modd, daeth criced i boblogrwydd enfawr yn yr un cyfnod.

Am y tro cyntaf roedd pobl y “Sunburnt Country” yn gallu rhannu profiad.

Am y tro cyntaf roedd Awstralia’n un ac wnaeth ras (a Don Bradman) greu hynny.

Ac mae’r effaith yma o hyd.

Tra mae Melbourne’n for o ffasiynau o bob lliw (a chwaeth)  draw yn Cairns ac i fyny yn Port Hedland mae’na filoedd o bobl yn rhoi bet neu ddeg ar geffyl neu dri.

Yn swyddfeydd ar draws y wlad mae “sweeps” yn cael eu trefnu.

Ychydig wedi tri o’r gloch ein hamser ni, fe fydd pob teledu ym mhob tafarn a swyddfa yn dangos y ras.

Am ddeng munud fe fydd y genedl ar stop. 

Am ddeng munud fe fydd Awstralia, pob 2,941,299 milltir sgwar ohoni, yn canolbwyntio ar 24 ceffyl.

DIWEDDARIAD Am ryw rheswm, fe wnes i ffansio “Americain”, felly 5 dolar “each way” ar ei drwyn a minnau $70.50 i’r gwell !!!

Ewch i’r fan hyn i weld lluniau o’r ras a’r bobl o’i chwmpas ac i’r fan hyn am fwy am “y diwrnod”.

Rho sylw

Filed under Uncategorized

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Newid )

Connecting to %s