W Capten – cadw’r tram ar y trac !

Un o’m hoff ganeuon ydy “W Capten”

Ond “W” arall ydy pwnc y post hwn. 

Yr “W” hyfrytaf yn y byd. 

Tram traddodiadol Melbourne yw’r “W Class”.

Mae’r cerbyd cludo hwn yn llawer mwy i ni yn y ddinas hon na ffordd o deithio o A i B. Neu, yn f’achos i, o B (Brunswick) i Y (yr afon Yarra).

Mae ei weld, ei glywed, ei brofi yn beth tu hwnt i ddisgrifiad.

Ydw.  Rwyf yn caru’r “W”.

Ymddangosodd yr “W” am y tro cyntaf ym 1923 ac mae’n dal i redeg ar deithiau 30 a 78 .

Meddyliwch am y peth.  1923 – blwyddyn Cup Final cyntaf  Wembley !!

Ond mae cyfnod yr “W” fel tramiau go iawn dan fygythiad.

Bwriad llywodraeth talaith Victoria a Yarra Trams (y cwmni sy’n rhedeg tramiau Melbourne) yw cael gwared o’r cerbydau lliw-hufen a gwyrdd erbyn 2012.

Yr unig “W-iau” fydd ar ol fydd y rhai sy’n cynnig cylchdaith o gwmpas Melbourne i dwristiaid a’r rhai sy’n llefydd bwyta symudol.

Ond mae’na ymgyrch i gadw’r “W”.  (Slogan fach handi tasa’r Gymraeg yn iaith ar lawr gwlad yn Victoria).

Gydag etholiad taleithiol ar y gorwel rwy’n siwr y bydd gwleidyddion o bob lliw’n addo i gadw’r tramiau ar ein traciau.

Ond rwy’n gobeithio na fyddan nhw’n addo i gadw nhw dim ond fel rhywfath o gwrthrych amgueddfaol. 

Rhaid cadw’r “W” fel rhywbeth real.

Rho sylw

Filed under Uncategorized

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Newid )

Connecting to %s