Esgidiau’n hedfan

Mae’na sawl ffordd o fynegi barn.

Trafod.  Dadlau.  Cweryla. Perfformio.

Nid oes dwywaith yr oedd tipyn o “berfformio” ynghlwm a’r hyn a ddigwyddodd ar raglen deledu “Q and A” neithiwr.

Roedd cyn-brif weinidog Awstralia John Howard yn ymddangos ar y rhaglen i hyrwyddo ei lyfr “Lazarus Rising“.  Roedd y rhan fwyaf o’r gynulleidfa yn y stiwdio’n ysu dangos eu hanniddigrwydd tuag ato.

Doedd y storom o sgidiau ddim yn syndod!

Fel bron pob gwleidydd sy’n sgwennu hunangofiant, mae John Howard yn amddiffyn popeth a wnaethpwyd ganddo yn ystod ei 11 blynedd fel arweinydd y wlad.

Nid oes mymrym o ansicrwydd yn perthyn i’w agwedd tuag at y rhyfel yn Irac.

O glanlyniad mae pobl yn teimlo nid oes pwynt “trafod”, “dadlau” neu, hyd yn oed, “cweryla”.

Pan mae rhywun yn styfnig neu’n peidio datgan unrhyw ansicrwydd, yr unig ffordd i wneud pwynt yw “perfformio“.

Mae’na wersi i bawb.

Mae hynny’n werth ei gofio wrth i’r ymgyrch dros ddarlledu yn y Gymraeg ail-ddechreu.  Yn ei hanterth, roedd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg yn bencampwyr fel perfformwyr gwleidyddol.

Jyst dweud ydwyf !

Rho sylw

Filed under Uncategorized

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Newid )

Connecting to %s