Scersli Bilîf – S4C DIWEDDARIAD

Roeddwn i yno.  Wel, roeddwn i o flaen set teledu pan ymddangosodd Sianel Pedwar Cymru am y tro cyntaf.

Fel un a gychwynodd ei ddiddordeb yn y Gymraeg diolch i drosglwyddydd Holme Moss a rhaglenni megis “Heddiw” yn y 60au cynnar, roedd gweld Owen Edwards yn ein croesawu ni i’r sianel yn beth mawr.

Erbyn hyn mae’r aelwyd teledol mewn tipyn o stad.

Wrth edrych o bell nid yw’r penderfyniad i dynnu S4C i mewn i gorlan y BBC yn syndod o gwbl.

Dylai rhywun llawer mwy clyfar na fi wedi sylweddoli bod sefydlu BBC Alba, sy’n bartneriaeth rhwng y BBC a’r Pwyllgor Darlledu Gaeleg, yn dangos ffordd arall o weinyddu darlledu mewn ieithoedd lleiafrifol.

Yn ol yr hyn rwyf yn deall, nad oes rhyw lawer o rannu syniadau (neu raglenni) wedi digwydd rhwng Steòrnabhagh/Stornoway a Chaerdydd ers 2008. 

Piti garw.

Pe tai rhywrai wedi siarad a’u brodyr a’u  chwiorydd yn yr Alban, fe roedden nhw wedi cael y cyfle i ail-greu’r gyfundren cyn i’r headkickers gyrraedd o Lundain.

Darlledwr/newyddiadurwr ydwyf ac mae’n fy mhrifo i weld sefydliad Cymraeg yn y fath drybini.  Yn fwy nag unrhywbeth arall, mae’n fy mhrifo i fod y fath sefyllfa wedi codi yn y lle cyntaf.

Damwain a hap ?  Diffyg diddordeb ?  SNAFU ?

DIWEDDARIAD 26/10/2010

Rwyf newydd glywed Euryn Ogwen ar “Wythnos Gwilym Owen ” yn dweud nad oes gan BBC Alba annibyniaeth. 

Nid felly yn ol fy nealltwriaeth o”r sefyllfa ddarlledu Aeleg sydd ohoni. 

Yr unig ffordd o ariannu a chynnal sianel yn yr iaith Aeleg oedd cyfuno’r Gorfforaeth Ddarlledu Brydeining a’r Pwyllgor Darlledu Gaeleg. 

Y syniad oedd gwenud yn sicr bod rhaglenni’n bwysicach na gweinyddiaeth neu fiwrocratiaeth.  Neu, i ddweud y “bleeding obvious”, roedd ond hyn a hyn o arian felly roedd angen gwneud y gorau o’r sefyllfa.

Ac mae’n rhaid i mi ddweud fy mod i’n cael fy syfrdanu wrth eistedd mewn cadair ym Melbourne bell nad oedd neb – mae’n debyg – yn gweld  “template” BBC Alba yn cael ei rhoi ar ben S4C.

Naifrwydd llwyr.

Ydy pobl y diwidiant darlledu yng Nghymru yn edrych y tu hwnt i Glawdd Offa ?  Rhaid bod rhyw rhai wedi rhannu “dram” o uisge beatha (whisky) yn ystod yr amryw wyliau cyfryngol Celtaidd  a thrafod ffyrdd eraill o redeg sianel.

Neu oedd pobl yn meddwl y byddai’r Sianel yn para am byth.

Ac un gair bach arall.  Plis… “BBC Alaba” ydy’r ffordd o ddweud BBC Alba.  Tipyn bach o barch i’n cyfeillion yn yr Alban !!!

3 Sylw

Filed under Uncategorized

3 responses to “Scersli Bilîf – S4C DIWEDDARIAD

  1. Mae’r ffordd cafodd BBC Alba ei greu yn dra gwahanol. Senedd yr Alban sy’n ariannu rhan fwyaf o gostau y sianel drwy MG Alba, gyda’r BBC yn cyfrannu adnoddau. Mewn gwirionedd mae rhan fwyaf o gyfraniad ariannol y BBC wedi ei llyncu yn nghostau darlledu ar loeren, cebl, y we ac adnoddau technegol arall. Dyw BBC Alba ddim hyd yn oed ar Freeview! Un o fanteision mawr S4C yw fod e wedi bod ar botwm ‘4’ ar bob platfform ers y dechrau (heblaw teledu cebl).

    Dwi ddim yn gwybod beth yw’r union sefyllfa o ran annibynniaeth golygol BBC Alba, ond mae’n amlwg mai MG Alba yw’r prif bartner, yn bennaf oherwydd y cyllid sy’n dod o’r Senedd. (a mae bwrdd MG Alba i’w weld yn reit annibynnol o’r BBC).

    Dyw’r un sefyllfa ddim yn wir am S4C, lle fyddai’r BBC yn cyllido holl raglenni’r sianel (£75m drwy’r drwydded yn ogystal a’r gwerth £20m o gynhyrchiadau BBC Cymru). A fuasai rhai o staff y BBC ar fwrdd neu awdurdod yr S4C newydd.

    Does dim rheswm pan na allai’r Cynulliad fod wedi dechrau ariannu peth cynnyrch teledu/gwe Cymraeg flynyddoedd yn ôl (i’w ddarlledu ar S4C drwy bartneriaeth neu ar blatfformau arall), ond doedd ganddon ddim y weledigaeth na’r cymhelliad gwleidyddol i wneud hynny. Roedd y gwleidyddion yn poeni fwy eu bod nhw yn y Cynulliad yn cael eu darlledu’n fyw ar deledu drwy S4C Dau!

    • fullcatastrophe

      Diolch Dafydd am roi mwy o gefndir am BBC Alba – rwyf yn wyliwr cyson o’r sinael honno trwy iPlayer, yn wir rwyf yn gweld mwy o raglenni Gaeleg na Chymraeg gan fod cyn lleiaid o gynnyrch S4C ar gael i ni bobl dramor.
      I rywun fel fi gyda thipyn back o Sgotyn ynddo, mae’r rhaglenni (ag eithrio y llu o raglenni cerddorol!!) yn fwy cysylltiedig i’r byd y mae’r gwylwyr yn byw ynddo. Maen nhw’n Albanaidd iawn yn hytrach nag Eingl-Americanaidd-Albanaidd !
      Cymerwch chi Partaig (http://www.bbc.co.uk/iplayer/gd/episode/b00vmzkh/Partaig_Episode_2/) – fformat hawdd ond diddorol. Oni ddylai rhywun wedi gwneud yr un fath o raglen ar Gaerdydd neu Gasnewydd neu ar fro’r Eisteddfod ?
      Ta waeth. Rwyf yn derbyn y pwynt parthed ariannu….mae pethe yn WAHANOL yn yr Alban.
      Y template yw’r peth i mi, y gyfundrefn.
      Mae’n ymddangos i mi ym mhellafon Melbourne bod pobl y cyfryngau wedi llwyr anwybyddu datblygiadau eraill yn y byd darlledu mewn ieithoedd lleiafrifol yn ystod y ddegwad ddiwethaf – BBC Alba, Maori Television ac yn y blaen.
      Mewn geiriau eraill, mae’n ymddangos i mi yr oedd pawn yn llawer rhy gyfforddus o lawer gyda’r sefyllfa oedd ohoni ac yn disgwyl i beth rhygnu ‘mlaen.
      Yn y pendraw fe fydd y ddrama ond o les i’r Sianel, ond pwy oedd yn gofyn y cwestinyau mawr am S4C blwyddyn neu ddwy yn ol?

  2. Hysbysiad cyfeirio: Ffeithiau « O Bell

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Newid )

Connecting to %s