Mae gan Awstralia ei santes gyntaf !
Erbyn hyn mae Mary Mackillop yn Santes Fair o’r Croes.
Mae’r holl ddathlu pabyddol sy wedi bod yn mynd ymlaen ar draws y wlad yn adlewyrchu rhywbeth a ddaeth fel tipyn o syndod i mi pan gyrhaeddais y wlad frown enfawr hon ym 1988.
Mae hon yn wlad eithaf pabyddol !
Yn ol y cyfrifiad diwethaf, mae tua 5 miliwn o Awstralwyr yn dweud eu bod nhw’n dilyn yr Eglwys Rufeinig.
Mae’r ffigurau braidd yn uwch yn fy nhyb i OND nid oes dwywaith bod presenoldeb a dylanwad yr eglwys hon yn fawr iawn.
Roedd’na dyndra rhwng pabyddion ac anglicaniaid am ddegawdau ym meysydd gwleiddiaeth ac addysg. I or-symyleiddiom roedd Llafur yn babyddol (a Gwyddelig) a’r Rhyddfrydwyr yn bobl Eglwys Loegr er enghraifft.
Nid oes rhaid ymhelaethu ar y fath o sefyllfa sy’n cael ei chreu gan agendor grefyddol !
Erbyn heddiw mae pethau wedi newid.
Mae’r Eglwys Babyddol yn rhan o’r sefydiad er gwaeth neu er gwell.
Mae ei dylanwad ar y ddwy brif blaid wleidyddol yn sylweddol – mae’na sawl filiwn o bleidleisiau ar gael !
Un o lwyddiannau John Howard fel Prif Weinidog ceidwadol oedd ehangu ei “sgwad” o weinidogion i gynnwys nifer o babyddion. Wrth gwrs, roedd agweddau cymdeithasol ceidwadol y rhain o gymorth i”w gyrfaoedd gwleidyddol hefyd.
Mae Tony Abbott, arweiydd presennol y Rhyddfrydwyr, yn babydd pybyr ac fe fydd yn ddiddorl gweld sut aiff e ati i fanteisio ar ffenominwm y Santes Fair.
Mae awdurdodau’r Eglwys Babyddol Awstralaidd yn disgwyl adferiad yn niferoedd eu cynulleidfaoedd yn sgil dyrchafiad Mary o Fitzroy gyda rhai’n dychwelyd wedi blynyddoed yn yr “anialwch”.
Os felly, a fydd y ffyddloniaid a aeth ar “goll” yn dod a syniadau mwy modern i eglwys sy’n draddodiadol yn ystyr gwaethaf y gair.
Fe gawn ni weld.