Dyddiau Cwn

Mae hi ar ben.

Dyna’r gwir sobor amdani.

Does dim byd arall i ddweud, gadewch i mi golli dagrau.

OK, nid yw pethau mor wael a hynny.  Y cyfan sy wedi digwydd yw gem o bel-droed (AFL).

I egluro: fe gollodd y Western Bulldogs i St Kilda yn y gem gyn-derfynol nos Sadwrn.  Dyna’r trydydd tro yn olynnol mae’r Cwnis wedi methu yn y gem arbennig hon.

Roeddwn i yno.  Fe wnes i ruthro o’m gwaith i gyrraedd y MCG erbyn cwarter-amser ac roedd y Doggies ar y blaen.  Ac roedden ni ar y blaen ar yr hanner hefyd mewn gem gorfforol iawn.

OND.  Mae gan fy nhim hanes o fethu.

Nid oedd neb o’m cwmpas yn gwir-freuddwydio am ennill y gem !  Ac roedden ni gyd yn gywir.

Cwarter gwych gan St Kilda (Hiort i’m cyfeillion annwyl o’r Alban) wnaeth setlo pethau ac roedd tymor y Bulldogs ar ben ac roedd rhaid i ni ffarwelio ein capten Brad Johnson ar ddiwedd gyrfa hir a disglair.

Roedd y daith adre ar fwrdd tram rhif 55 yn un anhapus.

OND.  Mae’r byd yn fwy na phel droed, fel ysgrifennais ar y blog Saesneg.

Ac mae’na “ac” hefyd.

Wrth i mi deimlo colled yn y byd chwaraeon, daeth un o uchafbwyntiau fy mywyd nos Sadwrn ar BBC Alba !

Ar y rhaglen gartwn Aeleg “Fraochy Bay” fe gefais “cameo”.

Edrychwch ar y dyn gyda’r meic am 1.50 tra mae’r plismon yn siarad … mae’na is-deitlau gyda llaw ac mae’r rhaglen yn ddoniol tu hwnt.

Bellach, mae’r poen pel-droed wedi mynd !

Rho sylw

Filed under Uncategorized

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Newid )

Connecting to %s