Dyddiau cyffrous

“It’s time”.  Dyna slogan y blaid Lafur Awstraliaidd ym 1972 pan ennillodd Gough Whitlam gan ddisodli’r pleidiau ceidwadol o feinciau’r trysorlys am y tro cyntaf ers 1949.

Wel, nawr mae’n bryd i’r wlad hon daclo tirwedd wleidyddol newydd a chyffrous.

Llwyddodd Julia Gillard (sy’n hen law yn ymwenud a chyfaddawdu o’i hamser fel cyfreithwraig) i berswadio digon o ASau annibynnol mai hi fyddai’r “bet” gorau fel prif weinidog.

Mae’r garfan Lafur yn un disgybledig yn y Senedd, hynny yw ni chaniateir unrhyw un i anghytuno’n gyhoeddus !  Felly mae seiliau’r llywodraeth lleiafrifol yn gadarn. 

Ar ben hynny, fe fydd pwyslais byth a hefyd yn ystod y misoedd nesaf ar y “rhanbarthau”.  Ac fel dywedais i ar Radio Cymru, ‘roedd ymrwymiad y Blaid Lafur i  sefydlu rhwydwaith band llydan cenedlaethol yn allweddol i gael dau o’r tri annibynnwr gwledig y tu fewn i gorlan Gillard.  Fe fydd yn costio $43 biliwn a mwy.

Roedd y glymblaid geidwadol wedi ymgyrchu dros rwydwaith band llydan llawer llai o faint gan ddadlau y byddai’r NBN (National Broadband Network) yn camgymeriad costus.

Er eu bod nhw’n pleidleisio dros ymgeiswyr ceidwadol gan amlaf, mae pobl y “bush” yn gwybod na ddylent yn rhoi gormod o ffydd yn y fasnach agored cyn belled ag y mae eu buddiannau economaidd a chymdeithasol yn y cwestiwn.

Mae Awstralia yn lle enfawr ac fe fyddai mwy o bellter o lawer rhwng y dinasoedd a’r wlad pe tai rhannau helaeth ohoni’n colli’r cyfle i fanteisio ar chwyldro diweddara’r oes digidol. 

Cyfnod diddorol sydd o’n blaenau ond mae democratiaeth eto yn fyw.  Diolch i’r drefn

Rho sylw

Filed under Uncategorized

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Newid )

Connecting to %s